Trawsgrifiad: "Philip Lloyd ydy fy enw i. Rydw i'n byw yn yr Wyddgrug ac wedi byw yn yr Wyddgrug am dros 20 mlynedd.
Dyma lun o'r gofgolofn o Daniel Owen a ddadorchuddiwyd gan yr Arglwydd Kenyon ar yr ail ar bymtheg o Hydref 1901. Bu farw Daniel Owen ym 1895 ac o fewn blwyddyn neu ddwy casglwyd gymaint 芒 400 punt trwy gronfa ap锚l genedlaethol ac mae'n debyg bod hynny'n ddigon i fedru comisiynu W. Goscombe John, cerflunydd mwya blaenllaw Cymru ar y pryd, i wneud cerflun efydd ohono.
Dyma'r diwrnod mawr - y dadorchudddio - ac roedd rhai o bobl yr Wyddgrug braidd yn bryderus i weld sut gynrychiolaeth o'r nofelydd y byddai'r arlunydd wedi ei gyflawni. Ond doedd dim angen pryderu o gwbl, roedd yn naturiol iawn, er bod na beth dadlau yngl欧n ag osgo yr het. Mae'n debyg bod y bobl oedd yn nabod Daniel Owen yn dweud y byddai'n gwisgo ei het ar dipyn bach o ongl, braidd yn chwareus, ond roedd Goscombe John wedi derbyn llun ohono gyda'r het yn hollol wastad ar draws ei gorun a beth bynnag, mae'n debyg bod pobl wedi dod i arfer 芒'r peth yn y man."
Philip Lloyd a Thaith Daniel OwenBywgraffiad: Daniel Owen
|