"'Dwi yn wreiddiol yn dod o Gei Conna a wedi cael fy magu ar lannau'r afon Dyfrdwy! Dwi wedi astudio Cymraeg ers ysgol babannod a wedi gwneud TGAU yn Ysgol Cei Conna a Lefel A yn Ysgol Uwchradd yr Alun. Ar hyn o bryd dwi'n astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor a dwi yn fy mlwyddyn ola.
Mae gen i ddiddordeb mewn ieithoedd a dwi'n astudio Ffrangeg hefyd ond mae gen i fwy o ddiddordeb yn y Gymraeg a dwi'n meddwl bod hi'n bwysig i ni fel cenedl i ddysgu'r iaith, cadw hi'n bur a sicrhau'r dyfodol o genhedlaeth i genhedlaeth.
Hoffwn i fod yn esiampl, mewn ffordd, i bobl ifainc a plant sydd o'r un fath o gefndir 芒 fi. Mae 'na lawer o bobl yn Sir y Fflint sydd wedi dod o gefndir Saesneg sydd ddim yn gweld mantais o gwbl i ddysgu Cymraeg. Efallai bydda i'n medru rhoi ysbrydolaeth iddyn nhw!
Dwi'n edrych ymlaen at yr eisteddfod yn dod yn 么l i Sir y Fflint a dwi'n edrych ymlaen at gystadlu. Mae safon y gystadleuaeth hyd yn hyn wedi bod yn uchel, uchel iawn felly dwi ddim yn siwr am fy siawns, gawn ni weld. Dwi'n edrych ymlaen at fwynhau'r dydd ac os dwi'n ennill, bonus bydd hynna!" Julie Macmillan o Gwm Rhondda oedd enillydd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2007. Y cystadleuwyr eraill oedd Albie Abbott o Loegr yn wreiddiol ond bellach yn byw yn Sir Gaerfyrddin a David Chan o Swydd Efrog.
|