Llywiwr bad achub Moelfre a enillodd ddwy fedal aur yr RNLI am ei wrhydri
"Nid eich bywyd chi ydy o ond bywyd y criw. Pan oeddwn i'n meddwl y gallwn i wneud rhywbeth mawr ond peryglus, roedd rhaid imi gofio fy mod i'n peryglu bywydau pobl eraill hefyd."Mae Dic Evans, cyn lywiwr bad achub Moelfre, yn un o'r ychydig i ennill medal aur y RNLI - Sefydliad Brenhinol y Badau Achub - am wrhydri, ddwywaith.
Ganwyd Richard (Dic) mewn bwthyn bach yn edrych dros y môr ym Moelfre ar Ynys Môn. Roedd ei dad, William Evans, yn gapten llong ac yn aelod o griw bad achub Moelfre. Ymhlith y criw hefyd roedd ei ewythr, a'i ddau daid.
Gadawodd Dic y pentref yn 14 oed ac ymuno â chriw llong lannau gan godi i fod yn llongwr profiadol. Dychweloddd i Foelfre i redeg siop gigydd a phriodi merch fferm leol, Nansi.
Ym 1954 gofynnwyd i Dic fod yn llywiwr ar fad achub y Moelfre ar ôl i'w ewythr, John Mathews, ymddeol. Roedd o ei hun wedi ennill medal arian yr RNLI.
Derbyniodd Dic Evans ei fedal aur gyntaf am wrhydri gan yr RNLI ar ôl helpu i achub yr Hindlea ar 27 Hydref 1959. Mewn corwynt a'r gwynt yn codi i 104 milltir yr awr, achubodd Dic a'i ddynion griw yr Hindlea er bod y bad achub yn cael ei hyrddio gan donnau 48 troedfedd.
Enillodd ei ail fedal yn 61 oed am helpu i achub y llong o wlad Groeg, Nafsiporod, oedd wedi colli pwer ynghanol seiclon ac oedd yn arnofio'n beryglus tuag at ynysoedd y Moelrhoniaid oddi ar arfordir Caergybi. Gyda'i griw, Jurley Francis, Hugh Owen, Evan Owen, Huw Jones, William Maynard Davies, Capten Davied Jeavons a'i fab ei hun, David, achubwyd y criw oddi ar y llong er gwaetha'r difrod mawr oedd wedi'i wneud i'r bad achub.
Fis Tachwedd 2004 dadorchuddiwyd cerflun efydd o Dic Evans gan y Tywysog Siarl y tu allan i ganolfan yr Wylfan ym mhentref Moelfre. Wedi ei greu gan yr arlunydd Sam Holland, mae'n gerflun maint llawn sy'n dangos Dic Evans yn cydio'n dynn wrth lyw cwch mewn storm. Mwy am y cerflun.