Prif weinidog Prydain yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf
Dyma un o brif weinidogion mawr y ganrif ddiwethaf a sylfaenydd y Wladwriaeth Les. Roedd yn ffigwr amlwg iawn yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn y trafodaethau heddwch ar ddiwedd y rhyfel ac enillodd yr enw y Dewin Cymreig, neu'r 'Welsh Wizard', a 'The Man Who Won The War' gan y cyhoedd.
Ganwyd Lloyd George ym Manceinion ond pan fu farw ei dad, prifathro o Sir Benfro, flwyddyn yn ddiweddarach, symudodd y teulu i Lanystumdwy lle roedd brawd ei fam yn byw. Roedd Richard Lloyd yn grydd ac hefyd yn weinidog efo'r Bedyddwyr.Bu'r ewythr hwn yn gefn mawr i Lloyd George yn ystod ei flynyddoedd cynnar ac yn ddylanwad mawr arno hefyd gan fod ganddo syniadau pendant iawn am anghydffurfiaeth a Rhyddfrydiaeth.
Cyfreithiwr ym Mhorthmadog oedd Lloyd George cyn cael ei ethol i gynrychioli Bwrdeistref Caernarfon yn etholiad cyffredinol 1890. Roedd yn dipyn o radical yn y Blaid Ryddfrydol ac un tro gorfu iddo wisgo fel heddwas er mwyn dianc rhag llid y dorf pan siaradodd yn erbyn y rhyfel yn Ne Affrica.
Yn dilyn buddugoliaeth Herbert Asquith a'r Blaid Ryddfrydol ym 1906, penodwyd Lloyd George yn Llywydd y Bwrdd Masnach ac yna'n ddiweddarach yn Ganghellor y Trysorlys ym 1908. Roedd ei gyfraniad yn allweddol yn y gwaith o gyflwyno pensiwn gwladol a phasio Deddf Yswiriant Cenedlaethol 1911, sef sylfaen y Wladwriaeth Les heddiw.
Yn dilyn creu clymblaid rhwng y Blaid Ryddfrydol ar Blaid Geidwadol ym 1916, penodwyd Lloyd George yn brif weinidog ar 7fed Rhagfyr fel olynydd i Asquith a chwaraeodd ran bwysig iawn ym muddugoliaeth y Rhyfel Byd Cyntaf a thrafodaethau heddwch Versailles wedi hynny.
Daeth ei arweinyddiaeth i ben ym 1922 pan adawodd y Ceidwadwyr y glymblaid oherwydd anghytundeb yngl欧n 芒 pholisi rhannu Iwerddon a sefydlu Gwladwriaeth Rydd Iwerddon.
Fe barhaodd fel aelod seneddol nes cael ei urddo'n Iarll ym 1945, sef Iarll cyntaf Dwyfor.
Roedd yn briod 芒 Margaret (Owen gynt) ac fe gawsant bump o blant:- Gwilym, Mair, Richard, Olwen a babi'r teulu, Megan Lloyd George, a ddilynodd yn 么l troed ei thad i'r byd gwleidyddol a dod y ddynes gyntaf i fod yn Aelod Seneddol Cymreig.
Gofalodd David a Margaret Lloyd George mai Cymraeg oedd iaith yr aelwyd yn Llundain a byddai Margaret yn dychwelyd i'w chartref yng Nghricieth i eni ei phlant er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu geni yng Nghymru.
Bu farw Margaret yn 1941 a phriododd Lloyd George 芒 Frances Stevenson, gwraig roedd wedi bod yn cael perthynas hir 芒 hi. Chwerwodd hyn ei berthynas 芒 rhai o'i blant a gwrthododd Megan 芒 mynd i'r briodas.
Bu farw Lloyd George yn ei gartref yn Nh欧 Newydd, Llanystumdwy ar 26 Mawrth, 1945. Cynlluniwyd ei fedd ar lan yr afon Dwyfor gan Clough Williams-Ellis a hynny dan garreg yr hoffai eistedd arni yn blentyn.
Mae Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy yn rhoi mwy o hanes y g诺r enwog hwn. Yno gallwch weld ei gartref pan yn blentyn, cael blas ar y ffordd Fictorianaidd o fyw a gweld gweithdy ei ewythr Richard Lloyd. Mae copi personol Lloyd George o Gytundeb Versailles i'w weld yno hefyd.