Menna Morris, Y drenewydd
Bethan. Dw i newydd ddarganfod dy lyfrau di a mae nhw yn ffantastig. Dw i wedi darllen 4 yn barod ac yn torri bol i ddarllen mwy! Roll on y gwyliau Haf pan mae gen i amser i ddarllwn yn yr ardd!
sara(13 oed)
newydd orffan darllen pen dafad ac roedd yn arbennig. y merch yn tigr arbennig gyda (twist). roedd yn ardderchog. rwyf yn rhoid 10 allan o 10 iddo da iwan
Laura o Pwllheli
Da ni newydd fod yn darllen y Llyfr "SGOR" yn fy nosbarth Cymraeg ac mae wedi apelio ataf yn arw. Dwi mond isho deud fod y llyfr yn rili da i ddarllen ag mae o wedi tynu lot o fy sylw. ella fysa y diwedd wedi bod yn well efo dipyn o newid reoddwn eishiau gweubod beth oedd am ddigwydd ar ol i Sion fynd nol i Bangor i fyw ag os oddo yn gadw cysylltiad efo Taleri yn diwadd ond fel arall oddon Dda iawn..Diolch!
Eirian o Gefneithin
Newydd ddarllen Hi yw fy FFrind a Hi oedd fy FFrind, Gwrach y Gwyllt nesa, bron a gorffen Martha, Jac a Sianco gan Caryl Lewis rwyn siwr bod ti wedi ei ddarllen, Os mets yn aros wrth ochor y gwely hefyd!Mwynhau bob tudalen mas draw, pob un yn rhwydd i ddarllen. Rhaid mynd i chwilio am y rhai eraill ti wedi ysgrifennu wedyn Mwynhau mas draw a diolch yn fawr iawn i ti. Eirian.
Rachel Thomas Cydweli
Rwy'n gwneud cyfweliad ar awdur ar y lyfr Llinyn Trons gyda'r ysgol. A oeddech wedi mynhau ysgrifennu y llyfr ???? Roedd on llyfr gret !!!!! :)w
Bethan Gwanas
Ddrwg iawn gen i Mair, wedi holi cwmni Telesgop, a na, dim cynlluniau i werthu DVDs Ar y Lein. Ond maen nhw'n siwr o gael eu hailddarledu hyd at syrffed!Lli - diolch am dy sylw. Os wyt ti'n ddigon hen i'w darllen, mae na elfen o'r hyn ti'n ofyn amdano yn Amdani! a Gwrach y Gwyllt!
Mair Davies
Hoff iawn o waith Bethan Gwanas teledu a llyfrau Oes posib cael prynu dvd or rhaglenni ar y lein diolch
Lli
Mae'r llyfrau yn wych! Dwi di darllen nhw trosodd a throsodd a dwi methu stopio fy hun. Plis newch chi sgwennu llyfr arall, ond di o'n bosib cal rywyn hoyw ynddo?
sian griffiths o gwalchmai
hoffi edrych ar y rhaglen ar y lein. gwych -dalier ati bethan.
Rhian Davies, Drenewydd.
Mae Bethan Gwanas yn ffab! Dwi yng nghanol darllan Hi Yw Fy Ffrind, ac mae'n anhygoel! Mae Non yn fy atgoffa i o sut oeddwn i pan oeddwn i'n ifanc, ac mae Nia yn union fel fy ffrind gora i pan oedden ni'n ifanc. Llyfr gret! Hefyd Llinyn Trons oedd y llyfr Cymraeg gynta i mi ei fwynhau ers Teulu Peg. Haha! xxx
Llion
Helo. Fi di Lli o'r bala a dwin caru darllen llyfrau . Chi ydir nofelydd gorau erioed.
Ysgol y Creuddyn
Rwyf yn disgybl yn ysgol y creuddyn a rwyf yn medddwl fod y llyf Llinyn trons yn FFFFFFFFFFFFFAAAAAAAAAAABBBBBBBBBB!!!!!Am llyfr Gret maen ddoniol yn apelio yn syth at plant fy oed fi 16..... ond mae mor ddda nad rwyf eish rhoir llyfr i lawr!!! maen BRILL!
Bethan Gwanas
Ddrwg iawn gen i, ond nagoes, does 'na ddim Llinyn Tr么ns 2 ar y ffordd, na Sg么r 2. Dwi'n gweithio ar 4 llyfr ar yr un pryd rwan, a dim un o'r rheiny yn eu mysg, sori. Ond fydd 'na ddim mwy o gyfresi Ar y Lein chwaith, felly bosib y cai fwy o amser i sgwennu mwy (yn cynnwys rhywbeth i'r arddegau) yn ystod 2008. Ond mi fydd dyddiadur 3 Ar y Lein allan flwyddyn nesa...A dwi newydd fod yn Ysgol y Creuddyn!
Pwyll o Llanuwchllyn
Oes ne llinyn trons 2 ar ei ffordd? dwi di bod yn awen meirion yn y bala yn reolaidd i weld os mae na un allan ond ddim hyd yn hyn. plliissss gwnewch chi llinyn trons 2! os gwnewch chi bydd o'n brill! hefyd roedd y nofelau hi oedd/yw fy ffrind yn gret. emosionol, ond yn ffantastic! diolch bethan!
Bae Penrhyn
Mae o'n dda iawn y llyfr Pen Dafad ond byswn yn hoffi i ti ddod i Ysgol y Creuddyn i gael gair efo ni.
Dosbarth 9c Llanfyllin
Den ni wedi darllen Sgor yn y dosbarth - roedd pawb wedi ei mwynhau hyd yn oed Iwan! Roedd y darn pan ddaeth Teleri i dy Sion a f'yntau'n sal yn wych a'r darn lle roedd Jason wedi cuddio'r rid. Allwch chi ddod i Lanfyllin a sgwennu sgor 2 gyda ni?
kate evans bedwas
rydw i just wedi gorffen llyfr pen dafad yn yr ysgol ac roeddwn i'n meddwl fod e'n ddoniol ac yn arbennig o dda - hoffwn i ddarllen mwy o lyfrau ti ac rydw i'n siwr byddaf yn mwynhau nhw yr un faint a pen dafad
Sian o Bontypridd
Fel un o'th gyfoedion yn Neuadd Pantycelyn, diolch am atgyfodi'r atgofion melys a hwyliog o'r amser gwych gawson ni yno fel myfyrwyr. Mei God am bwy wyt ti'n son dwed!!Plis gawn ni ragor o hanes Nia a Non.Gyda llaw, llys-enw un o ffrindiau'r mab yw Trons-llongyfarchiadau am ddenu bechgyn yn ei harddegau i ddarllen!
Val Davies Llandysul
Yn edrych ymlaen at ddarllen y dyddiaduron teithio. Wedi mwynhau'r rhaglenni "Ar y Lein" yn fawr iawn. Diolch.
Carol o Benllyn
Bethan, Wedi mwynhau "hi yw fy ffrind" yn ofnadwy!! Edrych ymlaen nawr i "hi oedd fy ffrind", gwneud i rhywun gofio 'r amseroedd da (a rhai ddin mor dda) yr adeg hynny. Da Iawn.Mwy Plis.
Helen o Blaenau Ffestiniog
Darllenais i y llyfr sgor yn yr ysgol a roeddwn i yn meddwl bod roedd o yn fantastig ond yn rhy fyr a yn gwneud i mi chwerthin gyda rhannau ohono
pwyll o lanuwchllyn
rwyn hoff iawn o llinyn trons er na llinyn trons ydwyf fi yn y bon. Oes llinyn trons 2 ar y ffordd yn y blynyddoedd nesaf. Diolch yn fawr am y llyfrau yn y presennol ag edrychaf ymlaen yn aeddgar at y llyfr efo'r bachgen yn troi'n ddafad. hwyl xxx
Rebecca o Bala
Wedi mwynhau eich llyfrau i gyd (Rheiny dwi wedi darllen hynny yw!) ac fedrai'm aros i ddarllen mwy.
Mared Davies
Llyfrau ffab!
Bethan Gwanas
Ddrwg iawn gen i Sharon JW, ond nagoes, dim bwriad i sgwennu 3ydd cyfrol yn dilyn Hi Oedd Fy Ffrind. Nid am flynyddoedd beth bynnag. Roedd yr ola'n lladdfa i'w sgwennu ac mae gen i gomisiynau eraill i'w gwneud cyn hyd yn oed meddwl am fynd yn 么l at Nia/Non. Heb s么n am ddod 芒 Nia'n 么l yn fyw!
Gruffudd o Lanuwchllyn
Helo Bethan. Rwyn meddwl eich bod yn ddynes cwl iawn ac yn edrych ymlaen i glywed am rhagor o lyfrau gennych. x
mary o Dyffryn
dwi yn hoffi llinyn tron
Kim o Rhuthun
Newydd orffen Gwrach y Gwyllt wedi ei fwynhau yn fawr methu ei rhoi i lawr, rwyf hefyd wedi darllen Hi yw fy ffrind a Hi oedd fy ffrind gwych! Edrych ymlaen i ddarllen mwy o dy lyfrau ddifyr.
Ynys Mon
Gai' dim ond diolch i ti am wneud i mi godi copi o dy lyfr Hi yw fy ffrind, mi ddarllenais i o hyd at 2.30 y bore ma ac mi oedd rhaid i mi nol Hi oedd fy ffrind yn syth, rhois i'r llyfr i lawr tua 4.30. Dwi di blino yn lan ond dim ots gen i dwi yn edrych ymlaen i weld os oes yna gyfrol arall i'r stori yma??
Mi wyt ti wedi gwneud rhywbeth na fedrodd un athro/athrawes wneud i mi wneud rhag cywilydd i mi sef darllen llyfr cymraeg na dau lyfr cymraeg un ar ol y llall!!
Diolch yn fawr iawn i ti
Sharon J-W
Richard Lewis o Lanfyllin
Dwi wedi darllen y llyfr sgor a mae'n ffantastic.Fy hoff ddarn yw'r 'crash'.
Bethan Gwanas
Diolch, Tony! Mae'n bosib y bydd 'na gyfrol arall o golofnau Herald allan ymhen blwyddyn neu ddwy (neu dair) - ond mae'n rhaid i'r ail gyfrol -'Mwy o Fyd Bethan' werthu mwy yn gynta. Mae'r gyntaf wedi gwerthu allan yn llwyr ond digon o hon ar 么l. Mynna bod dy ffrindiau yn prynu copi neu rywbeth!
Tony o Ogledd Cymru
Bethan, sut ar y ddaear dach chi'n ffeindio'r amser i wneud cymaint? Rhwng pob dim rhaid bod chi'n gweithio 24/7! Wnes i fwynhau "Hi oedd fy ffrind" yn fawr. Syniad gwych i sgwennu o safbwynt Nia yn y dilyniant. Gyda llaw, oes 'na gynllun ar droed i gyhoeddi mwy o erthyglau o'r Herald ryw ddiwrnod? (h.y. Byd Bethan 3)
Ali o Penyffordd (Wrexham ish)
Sut mae? Oeddwn i'n darllen Llinyn Tr么ns Blwyddyn neu dwy yn ol, llyfr gret! Mae Bethan yn ymweld a ni Dydd iau. Edrych ymlaen i gweld hi! x x x x
Marian, Dolgellau
newydd ddarllen Hi oedd yn ffrind - gret o lyfr, methu ei rhoi lawr fel bob un llyfr arall gan Bethan - 4 o'r gloch bore arnai'n mynd i gysgu! Edrych mlaen at y llyfr nesaf!
Nia Morgan o Llangefni
Dwi wedi darllen y llyfr "Hi yw fy ffrind". Mi nes i fwynhau y llyfr yn fawr iawn!
Cara Thomas o Llangefni
Mae'r llyfr Pen Dafad yn gret! Mae o'n ddoniol ac mi wnes i hoffi yn fawr iawn!
Angharad Evans o Cernyw
Wedi darllen hi oedd fy ffrind. Gwych, ond wedi clywed mai llyfr ola y cyfres fu hi! Mi fysan ddiddorol weld os, gyda help, fysa Nia yn newid?
Bethan Gwanas
Yr un gair yn Saesneg! Telepen. Sef y 'bensel' electroneg sy'n cael ei defnyddio gan llyfrgellwyr i farcio llyfrau sy'n cael eu benthyg.
Pob lwc gyda'r dysgu.
Barbara Rees o Glyn Ebwy, De Cymru
Dw i'n dysgu cymraeg. Dych chi'n gallu helpu fi. BLODWYN JONES A'R ADERYN PRIN. Tudalen 10: "Roedd Gwen yn flin a doedd fy nhelepen i ddim yn gweithio"
Beth yw'r gair Saesneg am telepen
Bethan Gwanas
Dylai 'Hi oedd Fy Ffrind' fod yn y siopau erbyn canol/diwedd Medi. Wel...dyna'r bwriad o leia!
Antoinette de Kleijn o Langamarch
Dwi wedi darllen pob llyfr ti wedi ysgrifenni ac wedi mwynhau pob un. Dechreais i gyda 'Blodwen Jones' ac nawr dwi'n gallu darllen llyfrau fel 'Gwrach y gwyllt'. Fydd ail llyfr i 'Hi yw fy ffrind' cyn bo hir?
chilli a nia o llanhari
llinyn trons yn dda iawn!!!!!!!!!!!
Dosbarth 10-A2 Ysgol Gyfun Gwyr
Ar fin dechrau darllen Llinyn Trons... Yr adolygiadau yn gwneud i'r llyfr swnio'n gyffrous iawn. Gobeithio na chawn ni'n siomi ;o)
Ar ol i ni orffen y llyfr, byddwn yn rhoi'n barn!
Cynthia Francis Llanfair
Darllenais 'Sgor' ac roedd o'n arbennig! Roedd o'n llawer o hwyl ac roedd o'n gwneud i mi chwerthyn o dechra i ddiwedd! Dwi ddim yn hoffi llyfrau Cymraeg fel arfer ond roed hun yn bendigennig!
Nia o Lanelwy
Mae Bethan yn wych mae ei llyfrau yn arddechog. Hi yw fy hoff awdures. fy hoff lyfrau yw pen dafad a blodwen jones. Mae nhw'n fendigedig!
Bethan Gwanas
Diolch! Dwi bron a gorffen drafft cyntaf y dilyniant: 'Hi oedd fy Ffrind' ond mae'n debyg na fydd yn y siopau tan tua Hydref/Tachwedd. Mi fydd 'na sawl drafft arall yn gyntaf mae'n siwr...
Lisa o Rhuthun
mi odd hi yw fy ffrind yn wych. edrych 'mlaen yn fawr at y llyfr dilynol
Ceri Jones o Brynrefail
Darllenais Llinyn Tr么ns yn y dosbarth, a dwi'n meddwl ei fod yn ffab!! Gorfod gwneud Gwaith Cwrs arno nawr, ail ddrafft, ond angen help arno. Beth sy'n digwydd gyda ffrae rhwng nobi a gags?? diolch.
Ffion Wright o Gaerdydd
Dwi wedi darllen 'Llinyn Trons' Yn yr ysgol ac mae'n WYCH!!! Dwi wedi dweud wrth fy ffrindiau ac mae nhw yn dweud ei bod yn wych hefyd!
Elinor o Caerdydd
Darllenais i y llyfr Sgor fel lyfr dosbarth, roedd e'n gret! Mae yn ardderchog am pobl yn eu harddegau. Gobeithio bydd na fwy o lyfrau fel Sgor i'w ddarllen.
Lisa Evans o Abertawe
Fe wnes i fwynhau ddarllen sgor yn fawr yn fy nosbarth cymraeg. Roedd y cymeiriadau yn wych!
Rhys
Rydw i yn disgybl mewn YGBM ac mae Bethan Gwanas yn dod i weld ni.
Josua
Rydw i'n disgybl yn Ysgol Gufyn Bro Morgannwg a bydd Bethan Gwanas yn ymweld a ni mewn dipyn - bydd yn hwyl i weld hi!
Mari Owen, Llandudno
Haia, cofio fi? Chwaer Fflur sef Ffion ar Rownd A Rownd? Jesd isho deud fy mod yn hoff iawn o dy lyfra, newydd berfformio y ddrama lwyfan Amdani yma yng Ngholeg Y Drindod, Cerfyrddin ac wrth fy modd! Diolch am y llyfra ffab!
Athro o F么n
Sg么r a Llinyn Tr么ns yn wych. Yr holl ddisgyblion wrth eu bodd! Y rhegfeydd sy'n 'i gneud hi dwi'n ama!
Sioned o'r mynydd
Diolch am bywyd Blodwen Jones, rydw i'n cymraig ond hon ydi'r llyfr cymraeg cyntaf rydw i erioed wedi darllen tudalen i tudalen, diolch!!!xxx
Kim Jones o Caerdydd
Mi ddarllenais i Llinyn Trons yn yr ysgol ac o i'n hoff iawn o fo. Fo yw fy hoff lyfr Gymraeg.
Meirion Lloyd o Chichester
Un yn wreiddol o Ddolgellau ydw i, ac yn falch o ddarllen amdanoch, Bethan. Rydw i wedi cael gwyliau yn nhai Caerynwch yn y gorffennol.
Owen Jones o Machynlleth
Dwi yn fach ond yn hoffi darllen eich llyfrau. Mae nhw yn gret, yn enwedig Sgor. Beth sydd yn mynd i ddigwydd nesaf yn Sgor 2?
Tom Bebb o Pen y Glog
Da iawn, wedi joio mas draw de! Gorfod gwneud gwaith cwrs arno fo, damio!
Bethan Gwanas
Helo o Madrid (ar y ffordd i Begwn y De ac wedi colli麓r awyren). Diolch i chi am eich sylwadau - gwneud i mi fod isio sgwennu mwy! I ateb cwestiwn Jed: dwi bron yn siwr ei fod o麓n aros efo Sian Tal, ond does wybod. Dim cynlluniau i sgwennu Sgor 2 na Llinyn Trons 2 ar hyn o bryd - rhy brysur am o leia 2 flynedd, sori. Ond llyfr am fachgen sy麓n troi麓n ddafad ar y ffordd!
Rhywyn o Rhywle arall
Rydw i'n gorfod gwneud gwaith cwrs ar y ddau lyfr Llinyn Trons a Sgor hefyd i athro Cymraeg a sgen i ddim syniad!!!!!
Ond mae Sgor a Llinyn Trons yn wych!!
Heledd o'r Trallwng
Ddaru ni ddarllen y novel yma yn ein gwersi Gymraeg ac mae o yn dda iawn, heblaw am y diwedd. Dwi yn licio y novel yma oherwydd mae eisiau i ti ddarllen mwy, dipyn fel 'cliffhanger'. Mae rhai rhannau o'r stori angen cael ei wella.
Falle yn y diwedd byddai Teleri yn gallu marw neu gall Jimbob a mam Sion symyd i'r Amerig?
Steph o'r Trallwng.
Darllenais i a fy ffrindiau sg么r yn ein gwersi Gymraeg. Rydym ni 'gyd yn cytuno fod o'n llyfr arbennig o dda. Fy hoff darn yw pan mae'r clyweliadau Penbwl ymlaen ag mae Lara yn canu ag Ashley yn chwarae ei horn-ffrenig. Roedden ni gyd yn chwerthin ein peniau ffwrdd! Ond roedden ni gyd eisiau Teleri marw ag wedyn Sian-Tal yn cofleudio Sion ag wedyn mae nhw'n surthio mewn cariad! Rydym ni gyd eisiau sg么r cael ei troi mewn i ffilm!
Sian o'r Trallwng
Dwi wedi darllen y llyfr Sgor a mae'n wych. Dyla ti sgweny mwy o llyfra. Fy hoff darn oedd pan ddaru Sion chwarae y sax ar y llwyfan i Penbwl, a mae fy ffrindiau yn hoff iawn o fo hefyd. Roedden yn chwerthin a siarad amdano yn y dosbarth.
Jed o'r Trallwng
Darllenais i Sgor yn y dosbarth a dwi'n meddwl mae o'n llyfr gret ond mae o'n rhy byr. Dwi eisio gwybod beth oedd yn digwydd i Sion. Oedd o yn mynd yn ol i'r gogledd neu aros efo Sian tal? Beth oedd yn digwydd i mam - a roedd hi aros gyda Jimbob?