Awdur Un Nos Ola Leuad ac enillydd tair coron a chadair Eisteddfodol.
Bardd, nofelydd a newyddiadurwr oedd Caradog Prichard. Treuliodd ran fwyaf ei oes yn Llundain, lle gweithiai ar staff y News Chronicle ac wedyn y Daily Telegraph, lle oedd yn uchel iawn ei barch ymhlith ei gyd-weithwyr.Tra'n byw yn Llundain cadwai ei wraig, Mattie, d欧 agored i Gymry, ac eraill, a daeth eu haelwyd yn adnabyddus am rialtwch a diwylliant. Ar y llaw arall, dioddefodd Caradog o effaith alcohol ac iselder ysbryd.
Ganwyd ef ym Methesda yn Sir Gaernarfon, yn fab i chwarelwr. Achoswyd poen meddyliol iddo ar hyd ei oes gan y wybodaeth bod ei dad wedi cael ei ladd yn y chwarel, a hynny, efallai, o ganlyniad iddo fod yn 'fradwr' yn ystod y Streic Fawr ar ddechrau'r ganrif, er bod J. Elwyn Hughes wedi dangos yn ddiweddar nad yw hyn yn debyg o fod yn wir.
Yr hyn sydd yn hollol wir yw fod mam Caradog Prichard wedi cael ei hanfon i ysbyty meddwl pan oedd ei mab yn ddyn ifanc. Pwysodd hyn arno yn ddirfawr ac mae i'w weld yn ei gerddi mwyaf adnabyddus, sef Y Briodas a Penyd.
Enillodd y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol dair gwaith, ym 1927, 1928 a 1929, y trydydd tro gyda phryddest sy'n dwyn y teitl Y G芒n ni Chanwyd. Enillodd hefyd y Gadair ym 1962 am ei awdl Llef Un yn Llefain.
Mae Y Briodas yn gyfres o delynegion dramatig sy'n cael eu llefaru gan bum cymeriad - y wraig, y mynydd, yr afon, yr ywen a'r ysbryd. Mae'r wraig yn tyngu llw i'w g诺r marw, ac erbyn diwedd y bryddest mae hi'n dawnsio'n lloerig gan dybio iddo ddychwelyd i'w hailbriodi. Cerdd ddirdynnol yw hon, fel ei ddilyniant Penyd, oherwydd, fel sy'n hysbys, mae hi wedi ei seilio ar brofiad y bardd ei hun.
Cyhoeddwyd cerddi Caradog Prichard yn y cyfrolau Canu Cynnar (1937), Tantalus (1957) a Llef un yn Llefain (1963), ac ymddangosodd casgliad cyflawn o'i waith barddonol ym 1979.
Er gwaethaf ei fri fel bardd y Goron a'r Gadair, cafodd Caradog Prichard ei lwyddiant mwyaf fel awdur y nofel Un Nos Ola Leuad (1961), sydd hefyd yn astudiaeth o wallgofrwydd, a Bethesda yn gefndir iddi hi.
Er bod y nofel wedi ei hysgrifennu yn gyfangwbl yn nhafodiaith gyfoethog yr ardal, mae hi wedi ei chyfieithu i sawl iaith arall ac wedi ei throi'n ffilm lwyddiannus. Yn wir, fe'i hystyrir fel un o nofelau mwyaf yr iaith Gymraeg.
Cyhoeddodd hefyd gasgliad o stor茂au byrion, sef Y Genod yn ein Bywyd (1964) a hunangofiant hynod ffraeth a dadlennol, Afal Drwg Adda (1973).
I ddeall cymeriad a gwaith y llenor cymhleth ac enigmatig hwn rhaid darllen llyfrau J. Elwyn Hughes a Menna Baines a gyhoeddwyd ym 2005. Dyn cymdeithasol iawn oedd Caradog Prichard, yn groesawgar, yn sgwrsiwr difyr, ac yn hoff o sylw a dwli - safodd unwaith fel ymgeisydd i fod yn Athro Barddoniaeth ym Mhrifysgol Rhydychen - ac eto roedd yna elfen dywyll yn ei gymeriad a ddeilliodd, yn ddiau, o'i brofiadau yn ardal y chwareli a ffawd echrydus ei rieni. Er ei fod yn hoff o ddychwelyd i'w fro enedigol o dro i dro, nid oedd yn gallu trigo yno, meddai, oherwydd profiadau atgas ei febyd.
Bu farw Caradog Prichard ym 1980 ac mae ei fedd yn rhan Eglwysig Mynwent Coetmor ym Methesda.