Mae'n werth ymweld 芒 Bryn y Castell. Cloddiwyd y fryngaer fechan yma ger Ffestiniog yn 1979-85 ac ers hynny mae'r rhagfuriau a rhai adeiladau o'i mewn wedi'u hail adeiladu yn rhannol, gan roi syniad da o sut y gallai fod wedi edrych. Oherwydd hyn mae'n werth mynd i weld Bryn y Castell.
Wrth fynd i mewn i'r gaer, sylwch ar y cerrig sy'n nodi'r tyllau pyst a oedd unwaith yn cynnal cilbyst mawr. Yn ystod Oes yr Haearn, byddai'r tu mewn i'r gaer yn orlawn o adeiladau amrywiol.
Mae gwaith cloddio ar y safle wedi esgor ar dystiolaeth werthfawr o fwyndoddfa haearn, oddi mewn i'r gaer ac mewn cwt crwn. Chwiliwch am y tai crwn si芒p malwen - mae archeolegwyr yn credu mai yma oedd yr efail a'r fwyndoddfa haearn. Mae adeiladau eraill wedi'u marcio gan gerrig crynion ac mae'r hen waliau o bolion pren yn awr wedi'u nodi gan gerrig syth.
Mae'r dystiolaeth yn dangos fod y safle yn cynhyrchu haearn yn niwedd Oes yr Haearn ac yn y cyfnod yn fuan ar 么l goresgyniad y Rhufeiniaid. Byddai'r Celtiaid yn defnyddio mwyn haearn o'r gors islaw'r mawn sy'n amgylchynu'r bryniau ar gyfer mwyndoddi a gweithio haearn.
Cyfarwyddiadau
Dilynwch y B4391 tuag at y Bala o Ffestiniog. Wedi 1.9 cilometr, trowch i'r chwith ar groesffordd i l么n 芒 gi芒t arni. Gallwch barcio'r car yr ochr draw i'r gweithfeydd dwr, wrth groesffordd y traciau. Dilynwch y trac sy'n mynd i'r dde i Fryn y Castell. Mae'r fynedfa ar yr ochr ogleddol.
|