Dwi wedi bod yn aelod o Glwb Tanfor Gwynedd ers dechrau'r 70au. Adeg yna, roeddwn yn gweithio yng nghanolfan awyr agored Biwmares yn dysgu hwylio, pan wnes i gyfarfod aelodau o'r clwb a cychwyn dysgu sut i ddeifio ym mhwll nofio Bangor. Dwi wedi bod yn brysur efo nhw ers hynny!
Un o'r prosiectau dwi'n gofio orau oedd darganfod yr hen gwch yn Llyn Padarn. Roeddent wrthi'n adeiladu'r gweithfeydd hydro electrig, a ddaru deifwyr o'r gr诺p ddod ar draws rhyw fath o gwch i lawr yn y mwd.
Es i ati i wneud y gwaith archeoleg arno a ddaru ni ddarganfod mai un oedd wedi cario llechi dros y llyn yn y 1700au oedd o. Roedd hyn yn yr amser cyn y rheilffordd i Gaernarfon; pan roedd yn rhaid cludo'r llechi o lyn i lyn cyn cyrraedd y m么r.
Cafodd ei adeiladu'n lleol ac mae ganddo waelod gwastad, yn debyg i gychod y Celtiaid. Mae'n bosib ei weld o yn yr Amgueddfa Llechi. Er bod llawer ohono wedi pydru, roedd y mwd a'r llechi wedi arbed lot fawr.
Ddaru'r gweithwyr hydro electrig hefyd ddod o hyd i Gwch Peris. Ddaru nhw wagio Llyn Peris ac adeiladu rhyw fath o blatfform ar un pen. Ddaru hwnna wasgu'r mwd i lawr, a dyna lle'r oedd yr hen gwch. Yn lle deifio yn y llyn, roedd yn rhaid i ni ymladd gyda'r holl fwd!
Dwi'n meddwl mai cwch clincer, gwaelod crwn oedd o. Yn ogystal 芒 llechi, roedd o wedi bod yn cludo anifeiliaid i fyny i'r topiau yn yr haf ac yn 么l lawr pob gaeaf; roeddem yn gwybod hyn gan fod yna ddigonedd o faw gwartheg a geifr ar waelod y cwch!
Cwch arall oedd un o'r 12fed ganrif, oedd wedi ei nafu allan o foncyff un goeden, sef ceufed. Roedd yn 12 troedfedd o hyd ac roedd yn dod o gyfnod yr hen gastell ger y llyn.
Mae'r Fenai'n llawn hen gychod hefyd. Roedd yna un o'r 16eg ganrif ger Pwllfanog, ar wely'r m么r rhwng y ddwy bont. Wrth wneud arolwg bywydeg forol o dan y d诺r, ddaru Dr Cecil Jones ddod o hyd i domen o lechi, sef cargo'r cwch. Roedd y cwch yma yn teithio'n bellach na'r rhai eraill - efallai'r holl ffordd i'r Iwerddon neu draw i Fflint. Mae'r llechi ar do'r castell yno efo llechi o'r ardal yma.
Mae o mor ddiddorol gweld y cychod yma yn dod i'r golwg, er mae'r holl faw yn y d诺r yn gwneud hi'n anodd gweld yn glir i lawr fa'na. Ond mae hynny'n rhan o'r her, yn ogystal 芒 dilyn y siwrne archeolegol wrth i ni ddarganfod beth yw hanes y darganfyddiad.
Mae'r gallu i weld trwy'r d诺r yn dibynnu ar y llanw, er mae o'n gallu bod yn deimlad reit ofnus wrth symud drwy'r niwl du. Ond dyna sut beth yw deifio oddi ar arfordir Gogledd Cymru.
Owain Roberts
Mae Clwb Tanfor Gwynedd am ddathlu eu ben blwydd yn bumdeg oed yn 2009, ac eisiau clywed gan unrhyw un sydd hefo straeon am anturiaethau'r deifwyr. Os oes gennych chi hanes i'w rannu, cysylltwch 芒 Liz Healey ar 01286 831722.