Mannau o bwys Daw'r detholiad hwn o luniau o gasgliad Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn Aberystwyth. Mae'r Comisiwn yn ffynhonnell gyfoethog i'r sawl sy'n ymchwilio i orffennol y genedl, ac am fod ganddo dros filiwn o ffotograffau a miloedd o fapiau a lluniadau, mae'n drysorfa o archaeoleg a hanes Cymru ac ar gael i bawb.
Menter fawr ar hyn o bryd yw datblygu Coflein, sef cronfa ddata ar-lein sy'n cynnwys manylion miloedd ar filoedd o safleoedd archaeolegol, adeiladau hanesyddol a lleoliadau treftadaeth arforol yng Nghymru.
Eglwys Bresbyteraidd Saesneg Princes Road, Ffordd-y-Tywysog, Bangor.