Roedd yn rhodd gan Syr John Prichard Jones, ynghyd 芒 chwech o fythynnod "rhoddedig fel rhodd am byth ... i bobl Niwbwrch eu defnyddio ...ynghyd 芒'r bythynnod sydd er budd pobl Niwbwrch yn unig".
Yn frodor o'r pentref, roedd Syr John Prichard Jones o gefndir digon cyffredin. O fod yn brentis m芒n-werthu yng Nghaernarfon dringodd i frig y diwydiant ffasiwn gan agor ei siopau ei hun. Daeth yn gyfarwyddwr ac yna yn bartner yn Dickins a Jones, Stryd Regent, Llundain.
Ef dalodd am adeiladu Neuadd Prichard Jones, Prifysgol Cymru, Bangor.
Roedd adeilad yr Institiwt yn Niwbwrch yn cynnwys llyfrgell, ystafell ddarllen, ystafell i'r merched, neuadd gyhoeddus, ystafell goffi, ystafell ysmygu a 'swyddfeydd eraill' ar gyfer preswylwyr y bythynnod a thrigolion Niwbwrch a'r ardal gyfagos.
Caiff rhai ystafelloedd eu defnyddio fel mannau cyfarfod ac fel llyfrgell, sy'n cynnwys casgliad Prichard Jones. Tybir bod copi o The Compleat Angler yno yn rhywle!
Heddiw, yn yr ystafell ddarllen, mae paneli dehongli am Lys Rhosyr - llys tywysogion Cymreig sy'n dyddio n么l i'r 14eg Ganrif. Nid yw lleoliad y Llys yn bell o Niwbwrch - cafodd ei ail-ddarganfod yn 1994.
Er y caiff ei ddefnyddio gan y gymuned, mae'r adeilad wedi dirywio rhywfaint a gobaith pobl y pentref yw ei adnewyddu a gwneud mwy o ddefnydd ohono fel man cyfarfod a chynnal hyfforddiant - ac yn lle i gynnal priodasau hyd yn oed.
Gall artistiaid lleol hefyd arddangos eu gwaith ar furiau'r ystafelloedd cyhoeddus. Bydd yr arteffactau, sydd yn cael eu cadw mewn ystafell gefn, i'w gweld gan gynnwys y penddelw o John Prichard Jones.
|