Parh芒d o atgofion William Parry Jones
"Ar 么l dathlu diwrnod VE, gawson ni ordors i fynd i'r British Hospital yr ochr arall i Lunenburg i 'gardio' ryw foi arall. Pwy andros oedd hwn? Lord Haw Haw ei hun.
Roedd wedi cael ei saethu yn ei ochr, ac yn ei wely pan es i yno gyntaf. Un diwrnod, mi es i fewn ato fo ac eistedd wrth y bwrdd. Erbyn hyn roedd wedi codi ac yn hoblo o gwmpas.
Ar y gwely roedd na gopi o'r cylchgrawn Picture Post. Mi wnes i ei godi i'w ddarllen.
"Leave that alone!" meddai wrtha i. "That's mine."
"It's not yours", meddwn i "It's the hospital's".
"No, I was given that by someone," meddai.
A ddaru ni ddechrau siarad, a gofynnodd: "You're Welsh, aren't you?"
"Yes, you're Irish aren't you?"
"Where did you live in Wales?"
"Llanrwst."
"I used to go to Colwyn Bay every day," meddai. "I lived in Trawsfynydd".
Roedd o yno i gael hyfforddiant wireless - roedd 'na orsaf wireless ym Mhenrhos ym Mae Colwyn. A fano roedd o'n mynd bob dydd.
Mi ofynnais os oedd o'n cofio Llanrwst, ac roedd o'n cofio bod marchnad yno bob wythnos.
Roedden ni ar y llawr cyntaf, ac wrth glywed s诺n motor yn mynd heibio, dyma fo'n dweud: "Do you think they'll take me back to England?"
"Well, I suppose so, you're British aren't you?"
"I've got a British and an Irish passport"
"But not a German one too?" Doedd o ddim yn licio hynny.
Beth bynnag, mi gafodd ei grogi yn y diwedd.
Ryw wythnos ar 么l hynny, cawsom ein ffl茂o adra, a ges i fy symud i'r Duke of Cornwall's Light Infantry am ychydig bach o hyfforddiant. Y syniad oedd mynd i baffio yn Japan, ond ddaru nhw ollwng y bom atom a'i ganslo fo.
Ges i bythefnos o wyliau, ac wedyn i ffwrdd 芒 ni i Balesteina, gan fod yr Iddewon yn gwneud twrw yno yr adeg honno.
Ddaru ni landio, mynd fyny i Haifa ac mi ges i a fy m锚t y job o giardio'r offer ddaeth efo ni ar y tr锚n. 'Hoblodd' hen foi efo ffon heibio a dweud: "What are you doing here?"
"I don't know, I've been sent here," medda fi.
"Why don't you go home?"
"If you give me a ticket, I'll go".
Ddaru o boeri yn fy ngwyneb i, a ninnau newydd baffio drwy'r Almaen a'u cael nhw allan o'r concentration camps.
Pan es i Haifa, mi gafodd chwech o'n hogia ni eu saethu yn eu pennau gan y terrorists Iddewig. Ddaru nhw grogi dau foi mewn perllan coed 'fala - a chwythu Gwesty King David i fyny yn Jeriwsalem a lladd dros 200. Doedd na ddim ymholiadau fel sy' 'na r诺an yn Irac.
Roedden ni'n chwilio am arweinydd y terfysgwyr, yn chwilio trwy'r settlements Iddewig bron pob dydd, ond pan ddaru ni fynd o' 'na, cafodd ei wneud yn brif weinidog ar Israel pan ranwyd Palesteina yn ddwy wlad (David Ben Gurion).
Ym Mhalesteina hefyd, pwy oedd yn 'Quarter Master Sergeant' ond Syr Alf Ramsay, hyfforddwr Lloegr yn 1966.
Dwi'n cofio ni'n mynd i chwarae efo fo - fo oedd capten y t卯m ac roedden ni'n chwarae yn erbyn y Welsh Guards.
Ddaru ni sgorio tri g么l, ond roedd y 'reff' o'r Welsh Guards hefyd a ddaru o ddim gadael iddyn nhw gael eu cyfri felly ddaru Ramsay alw'r t卯m at eu gilydd, ac 'off' 芒 ni.
Ges i fynd adref yn 1947, n么l i Llanrwst. Ers hynny, dwi wedi gweithio yno ym maes coedwigaeth."
N么l i'r dechrau