Yn 么l i Gymru - parh芒d o atgofion Mari Hughes
"Felly yn 么l i Lerpwl 芒 ni. Ond roedd wedi gwaethygu dipyn erbyn hynny. Trefnais i mam a dad gael mynd i Ysbyty Ifan. Roedd t欧'r gweinidog yn wag, a felly roedden nhw'n cael byw yna hyd i un newydd ddod i'r pentref.
Mi ges i job fel prifathrawes ar ysgol babanod yn Llangollen. Roeddwn i'n arfer mynd adref i Ysbyty Ifan ar y penwythnos yn y car os oedd gen i ddigon o betrol.
Os nad oedd gen i betrol, byddai'r lori powdwr yn dod o Benrhyndeudraeth bob bore Llun a, chwarae teg i'r dreifar, roedd o'n mynd a fi i lawr i Langollen, er nad oedd o ddim i fod i godi neb.
Pan wnes i ddechrau cangen o'r Urdd yn Llangollen roedd pobl y ffermydd yn falch ofnadwy gan mai braidd yn Saesnigaidd oedd Llangollen yr adeg honno. Mi wnes i fwynhau fy amser yno yn fawr.
Yn rhyfedd iawn, pwy ddaeth i Langollen ond fy hen ysgol i yn Lerpwl. Dwi'n cofio rhywun yn dod ata i ac yn dweud fod fy angen i yn neuadd y dre - a dyna lle roedd fy hen ysgol, a'r athrawon roeddwn yn eu hadnabod yn dda, gan gynnwys Gwladys Tregilgas - mi gollais gysylltiad efo hi wedyn pan gafodd job yn Wem.
Ar 么l y rhyfel
Doedd Ysbyty Ifan ddim yn ddieithr i mi gan y byddwn yn dod bob gwyliau i aros efo nain a fy modryb.
Ond roedd 'na lot o eiriau doeddwn ni ddim yn eu dallt pan ddes i gyntaf ar 么l byw yn Lerpwl. Dwi'n cofio dod adref o Langollen efo briw bach ar fy llaw. Roedd o'n brifo ac yn reit goch o fewn amser a ddaru mam alw am y doctor, ond doedd ei wraig ddim yn meddwl ei fod yn bwysig a daeth i ngweld i'r diwrnod wedyn. Erbyn hynny, roedd na lein fawr goch i fyny fy mraich, ond daeth y chwydd i lawr o fewn 'chydig.
Pan es i mewn i'r pentref wedyn, roedd pawb yn deud, 'Da chi 'di cwtsio'
Beth ar wyneb y ddaear oedd 'cwtsio'? Gofynnais i mam, a dywedodd mai edrych welw oedd yr ystyr!
Wedyn, gwelais i ffarmwr yn Ysbyty Ifan, a dyna fi yn ei briodi a chael t欧 bach - yn y pentre i ddechrau. Ond roeddwn i wastad eisiau t欧 heb fod yn sownd i d欧 arall - t欧 efo pedwar wal i fi fy hyn. Felly cawsom fferm Hafodlas, a wedyn Hafod Ifan, oedd dros y ffordd.
Dysgais i odro, a dechreuais brynu gwartheg hefyd. Ond pan roedd y plant yn saith ac wyth oed, mi ofynwyd i mi fynd i weithio yn yr ysgol gynradd fel supply. Roedd mam efo ni ar y ffarm a dywedodd y byddai hi'n edrych ar 么l y dynion ganol dydd, a byddwn innau'n n么l erbyn pedwar o'r gloch. A felly fu am sbel. Aeth y supply yn barhaol, ac roeddwn yna nes i mi ymddeol.
Ac yn Hafod Ifan ydw i o hyd. Mae fy merch a fy mab yng nghyfraith yn ffermio yno r诺an, ond mae nhw'n ffeind iawn i roi cornel bach i mi yno r诺an fy mod yn 95."
N么l i'r dechrau