Pan ddaeth y Parchedig Michael Walker yn ficer newydd i dref Halifax yng ngogledd Lloegr, daeth pawb i wybod yn gyflym ei fod yn ymddiddori mewn trenau st锚m. Felly, pan ddaeth dyn lleol o hyd i focs o hen sleidiau o drenau wrth wagio t欧 hen 诺r lleol yn 1969, daeth 芒 nhw i'r ficerdy.
Mae Michael Walker, sydd bellach yn byw ym Mhorthmadog, yn tybio mai rhywun oedd yn mynd 芒'i feic ar y tr锚n o Halifax i ogledd Cymru oedd y ffotograffydd, ac o edrych ar y wybodaeth fanwl sydd wedi ei chofnodi ar bob sleid, daeth ar ei wyliau i ardal Ffestiniog yn y 1950au a'r 1960au cynnar. Mae'r lluniau'n dangos gorsaf Tan y Bwlch a Phorthmadog yn 1958 a 1963.
Cyd-ddigwyddiad pellach oedd fod y Parch. Walker a'i gyfeillion wedi cymryd y tr锚n st锚m o Finffordd i Dan y Bwlch yn 1958, yr un flwyddyn ag y tynnwyd llawer o'r lluniau, tra'n gwneud gwaith gwirfoddol ar y rheilffordd. Wrth fynd am dro ar hyd y rheilffordd o Dan y Bwlch, nhw oedd y bobl olaf i gerdded drwy'r twnnel tra roedd gweithwyr trydan-hydro yn ei lenwi ar eu holau.
Mewn dau o'r lluniau mae dynes mewn gwisg Gymraeg, sy'n cael ei chofnodi fel Mrs Jones yn y wybodaeth ar y sleidiau, yn cerdded wrth ochr y trenau. Wyddoch chi pwy oedd y ffotograffydd, neu a wyddoch chi unrhyw beth am y Mrs Jones neu'r trenau yn y lluniau?
|