Mae Mair hefyd yn s么n am gylch teulu sy'n olrhain achau rhai o'r gwladychwyr cynnar. "Dyma debot Michael D Jones, sylfaenydd y Wladfa ym Mhatagonia. Fo aeth 芒 chriw o 153 o'r Bala yno flynyddoedd yn 么l ar y Mimosa.
"Dywedodd yr arbenigwyr bod y tebot werth 拢100, ond mae o werth llawer mwy yn hanesyddol.
"Mi wnes i symud i Gymru pan briodais i Gymro yn 1977. Mair Jones oedd fy enw cyn i mi briodi. Mae gennyf deulu yn dal i fod yn y Gaiman, Patagonia; brawd a chwaer, cefndryd a chyfneitherod. Mae Luned Gonzales yn athrawes yn y Gaiman, a Lewis Roberts yn yr Unol Daliaethau.
"Aeth fy nhad, Walter Gwyn Jones o Felin y Coed, allan i'r Wladfa yn 1911. Roedd yn dioddef yn ofnadwy o asthma, a dywedodd y doctor y byddai gwlad sych yn well iddo. Setlodd yn y Wladfa, ar 么l mynd draw yn 18 mlwydd oed. Fe wnaeth gyfarfod 芒 mam, oedd o deulu a ddaeth yn wreiddiol o Aberystwyth ond wedi setlo yn Bolton. Gweithiodd fel melinydd yn Nhrevelin, gan iddo fod yn felinydd ym Melin y Coed.
"Mae fy chwaer yn siarad Cymraeg, ac mae ei merch, Eleri, yn siarad Cymraeg hefyd. Mae ei phlant hi, Nadia a Vali, yn dysgu Cymraeg, er bod Vali, sy'n 16 mlwydd oed, wedi gorfod gadael y Gymraeg am y tro, gan ei bod hi eisiau dysgu Saesneg i fod yn athrawes.
"Wrth gerdded i lawr y stryd yn y Gaiman bydd pobl croen tywyll yn gofyn os ydych o Gymru, ac yn dweud bod ganddynt Gymry yn eu teulu nhw hefyd. Maent yn falch o ddod o dras Cymreig. Mae'r Cymry ar chw芒l ymhobman - hyd yn oed ym Muenos Aires, prifddinas yr Ariannin.
"Dwi'n hoffi'r ddau le yr un fath - Cymru fach, a'r Wladfa. Roeddwn i yn y Wladfa ddiwethaf ddwy flynedd yn 么l. Roeddwn i yn arfer trefnu tripiau gyda fy ng诺r, Dei, a dwi'n bwriadu trefnu un arall cyn bo hir.
"Yn y dyfodol, mi fydda i'n mynd yn 么l i fyw i Batagonia. Mae fy chwaer a fy mrawd eisiau i mi fynd yn 么l, ond yn anffodus, nid yw sefyllfa ariannol yr Ariannin yn dda ar y funud, felly fydda i ddim yn mynd yno eleni - ond rhywbryd. Ges i gynnig byngalo yn y Bala, felly penderfynais ei gymeryd am r诺an.
"Dyma hefyd gylch teulu Elias Garmon Owen, y fu farw yn y Wladfa tua 1955. Roeddwn yn adnabod ei nai, Elias Garmon, a byddem yn ei alw'n Taid Gwyndy. Ar 么l byw yn y Wladfa, daeth yn 么l i Gymru i fyw, gan ei fod yn dod o Gapel Garmon yn wreiddiol. Roedd Elias Garmon hefyd yn perthyn i deulu Tal y Sarn a Dr Kate Roberts.
"Mae'r cylch teulu yn reit fregus, a dwi wedi trio ei drwsio. Ges i afael arno gan fod Elias Garmon wedi ei roi i fy ffrind, Tecwyn Edwards. Ganddo fo mae'r unig gopi arall."