Y Thetis
Un o Gaergybi'n wreiddiol ydy John Griffiths ond mae'n byw bellach yn Rhydychen. Mae'n ein hatgoffa o gysylltiad Caergybi 芒 thrychineb llong danfor y Thetis ym 1939:Ychydig o adroddiadau'r drychineb sy'n s么n fel y bu i'r llong danfor, ar 么l bod yn gorwedd ar Draeth Bychan, gael ei thynnu i ddoc sych Caergybi ac oddi yno y symudwyd y cyrff gan wirfoddolwyr. Aethpwyd 芒'r cyrff i'r hen Dy Pontoon (a chwalwyd yn ddiweddarach) cyn eu claddu ym Mynwent Maeshyfryd. Mae fy niweddar fam yn cofio gweld y cyrff yn cael eu cludo ar hyd ffordd Turkey Shore am tad yn cofio arogl y meirwon yn aros am wythnosau yn yr ardal. Wrth s么n am hanes y Thetis, fe gyfeirir at Draeth Bychan ond nid at Gaergybi ac yno y claddwyd y morwyr druan.
|