"Tua chanol y pumdegau daeth y newyddion fod Dinas Lerpwl yn mynd i foddi Capel Celyn er mwyn disychedu trachwant y ddinas fawr honno. Ni chymerais y sibrydion hyn o ddifri ar y pryd gan na feddyliais y byddai'r fath ddinistr yn bosibl ond yr hyn na sylweddolwn oedd mai cenedl wedi ei chaethiwo oeddem. Daeth y si yn gryfach, nid oedd Lerpwl yn mynd i foddi cartref Ann Griffiths yr emynyddes yn Nol Annog gan eu bod wedi ildio rhag cynddeiriogi'r Cymry, ond daeth i'r amlwg wedyn nad oedd gan Lerpwl eisiau boddi'r cwm hwnnw o gwbl ac mai cynllwyn oedd y cyfan er mwyn cael llonydd i foddi Cwm Celyn a thaflu llwch i lygaid y genedl oedd hyn o'r cychwyn ganddynt. Felly, argae ar draws Cwm Celyn oedd i fod."Dydd Mercher Tachwedd 21 1956 trefnwyd dau fws i fynd i Lerpwl i brotestio yn erbyn y boddi pan oedd Cyngor Dinas Lerpwl yn trafod boddi'r lle, penderfynais beidio 芒 mynd i'r ysgol y diwrnod hwnnw a bod yn rhaid imi fynd i Lerpwl i brotestio yn erbyn eu cynllun gwallgo'.
"Cychwynnais gerdded o Fron Goch, tua hanner y ffordd i Gelyn stopiodd car gyda dau Sais ynddo gan ofyn i ble yr awn, minnau yn ateb fy mod yn mynd i Lerpwl ar y bws i 'ddangos fy ochr', dyma'r camera allan yn syth. Cefais fy llun yn y Daily Post ac mewn papurau eraill y diwrnod wedyn gyda rhywbeth tebyg i'r geiriau canlynol oddi tano.
"'Elwyn Edwards, a thirteen year old schoolboy walks seven miles to the village of Capel Celyn to catch the bus that takes the villagers of the doomed valley to Liverpool to protest againts the drowning of their homes'.
"Celwydd noeth oedd y saith milltir wrth gwrs. Cawsom ein hebrwng drwy'r ddinas gan yr heddlu a'r hyn sydd wedi glynu yn y cof yw bod rhai o hen wragedd mantach y lle yn ein gwylio ar ochr y strydoedd ac yn gweiddi ac yn poeri arnom, rhai eraill yn ein diawlio'n ddidrugaredd ac yn ein galw'n bob enw a ninnau cyd-rhwng yr heddlu a nhw yn gorymdeithio gyda'n baneri. Heb y glas byddai wedi bod yn 'sgarmes mae'n siwr.
"'Roeddwn yn mynychu Ysgol T欧 Tan y Domen, Y Bala. Tradwy'r brotest galwodd y Prifathro arnaf o'r llwyfan yn y gwasanaeth boreol imi fynd i'w ystafell gan ei fod eisiau fy ngweld. Nid oeddwn yn barod i'r hyn a oedd yn fy nisgwyl, daeth i mewn gyda'i gansen yn ferw yn ei ddwrn Prydeinllyd ac yn gwaeddi rhywbeth yn Saesneg am "golli'r ysgol i fynd i Lerpwl i wastraffu amser ac i brotestio yn erbyn boddi rhyw hen le s芒l fel Cwm Celyn". Os y bu'r bygythiad i foddi'r cwm blannu cenedlaetholdeb ynof bu i'r gansen honno ei feithrin yn eginyn i'r nad oedd pall ar ei dyfiant.
"Aeth y gwaith yng Nghelyn rhagddo, bob hyn a hyn fe biciwn yno i weld beth oedd yn digwydd. Dechreuwyd codi'r argae ger Tyddyn Bychan, nid oedd s么n o gwbl am y Tyrpeg, dim ond ambell i faen lle bu. Gadawyd sylfaen t欧 Hafod Fadog, Y Garnedd Lwyd wedi ei ddinistrio'n llwyr, 'doedd yno ddim byd i ddangos fod yno ffermdy wedi bod ar y safle. Felly hefyd Coed y Mynach ar Dd么l Fawr ond, 'roedd Cae Fadog ar ei draed hyd yma, pentwr o gerrig oedd y Gelli, wedi ei ddinistrio'n llwyr, ysgerbydau oedd yr Ysgol, y Capel, ffermdy Ty'n y Bont, y Siop a'r Llythyrdy a thai eraill y pentre ac 'roedd y lor茂au mawr yn gwibio ar hyd y ffordd yn cario swnd o fferm Gwern Genau i lenwi'r argae.
"Cludwyd meini'r adeiladau a difrodwyd i gyd i'r argae. Wedi'r chwalu nid oedd ond sylfeini ffermdy Hafod Fadog a'r Capel wedi eu gadael, Hafod Fadog, oherwydd y cysylltiad gyda'r Crynwyr, gosodwyd hefyd slabiau concrit ar y cae, lle'r oedd eu mynwent yn dynodi'r ffaith (yn Saesneg) debyg iawn mae yno oedd eu claddfa.
"Bum yn chwarae lawer ar y darn cysegredig hwn heb fod yn gwybod yr adeg honno fod yno fynwent. Mae yna un achlysur wedi glynu yn y cof - 'roedd yn un o'r gwyliau banc ac euthum draw i'r cwm am dro a'r hyn a'm tarodd oedd y distawrwydd Ilethol drwy'r holl le, nid oedd yr un goeden yn sefylI, yr un gwrych, a'r coed cyll cnydiog ger Y Garnedd Lwyd lle casglem y cynhaeaf yn flynyddol i gyd wedi eu torri a dim ond boncyffion ymhobman. Roedd y lle i gyd fel powlen enfawr a'r distawrwydd yn frawychus, dim symudiad o fath yn y byd, yr un brefiad, yr un aderyn yn pyncio, dim ond y tawelwch ffrwydrol drwy'r holl gwm fel pe bai angau wedi ysgubo drwyddo a difa popeth o'i flaen."