Beth felly oedd y drefn o fynd yn swyddog? Faint o swyddogion Cymraeg oedd yna? A sut oedden nhw'n dod ymlaen gyda'u cyd Gymry ar y dec? Manteisiodd rhai o hogiau'r gogledd ar y cyfleon yn y cwmni i ddod yn swyddogion.
Bachgen o L欧n oedd Gwilym Owen. Ac mi roedd yna gysylltiad 芒 Ll欧n 芒 pherchnogion y Blue Funnel Line, a dyna pam y bu i gymaint ymuno 芒'r cwmni. I Aberdyfi y byddai llawer yn mynd i gael eu hyfforddi - yn Gymry a Saeson.
"Roedd yna ddwy long hwylia bach yno," meddai. "Mi fydda tua dwsin ohonan ni yn cael saith diwrnod ym Mae Ceredigion. Mi fues i yno am fis ac wedyn cael fy ngalw i fyny i Lerpwl."
Wedi nifer o flynyddoedd daeth Gwilym Owen yn gapten gyda'r cwmni.
Peiriannydd oedd Meirion Pugh Jones, yn wreiddiol o Lanbedr, Meirionnydd. Osgoi gorfod ymuno 芒'r fyddin fel rhan o wasanaeth cenedlaethol oedd y rheswm iddo fynd i'r m么r.
"Mi sgwenais i tua deugain o lythyrau ac o'r diwedd cael gwaith efo cwmni o Fryste," meddai. "Pan ddaeth y gwasanaeth cenedlaethol i ben, mi es i o gwmni oedd ddim yn gwmni mawr, i anferth o gwmni sef y Blue Funnel yn Lerpwl."
Ond sut longwyr oedd y Cymry ar y dec? "Roeddan nhw'n weithwyr da," meddai John Maldwyn Hughes, o Lanrwst yn wreiddiol, oedd yn f锚t efo'r cwmni. "M么r oedd eu petha nhw'n de. Roeddan nhw'n hogia 芒 m么r yn eu gwaed nhw. Roeddan nhw'n dallt y gwaith. Roeddach chi'n gallu dibynnu arnyn nhw."
Yn y rhaglen hefyd cafwyd atgofion y Capten John Meurig Jones o Lanbedrog; Robert Arfon Jones, Llangefni, ymunodd 芒'r cwmni fel peiriannydd o'r Llynges; Gareth Jones o Caergeiliog ddaeth yn f锚t gyda'r cwmni a'r Capten Glynne Pritchard oedd 芒'i dad a'i frawd eisoes wedi gwasanaethu efo'r Blue Funnel Line. Bu Eleanor Owen, gwraig y Capten Gwilym Owen, hefyd yn dweud sut brofiad oedd hi i wraig capten orfod treulio misoedd adref ar ei phen ei hun.
Rhaglen 1Atgofion Meirion Pugh Jones o Ddyffryn ArdudwyAtgofion Dylan Parry o'r Felinheli
|