"Mae pob myfyriwr yn wahanol, dyna pam fod Bangor yn cynnig rhywbeth i bawb. Mae gwefan Prifysgol Cymru, Bangor yn llawn gwybodaeth hanfodol ar gyfer myfyrwyr newydd. Er nad Bangor yw'r ddinas fwyaf yn y byd, mae'n ddigon mawr i ddarparu popeth yr ydych chi ei angen i fyw bywyd llawn a hapus yma fel myfyriwr.
"Bwriad yr adran 'Bywyd Myfyrwyr' ar wefan y Brifysgol yw rhoi blas ar fywyd ym Mangor. Fel t卯m gwe'r Brifysgol rydym ni'n cynhyrchu nifer o dudalennau hanfodol sy'n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw beth sy'n effeithio arnoch chi fel myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am gyllid a ffioedd, chwaraeon, siopau ac atyniadau ynghyd 芒'r newyddion diweddaraf ac erthyglau am fyfyrwyr presennol. "Rydyn ni hefyd yn gweithio law yn llaw 芒 myfyrwyr i ysgrifennu erthyglau am eu profiadau a ffilmio fideos sy'n rhoi darlun clir o fywyd yma.
"Mae tipyn o fideos a theithiau newydd ar y wefan. Wedi ei lleoli rhwng mynyddoedd Eryri a'r Fenai mae'n debyg mai Bangor yw'r lleoliad prifysgol prydferthaf ym Mhrydain. Mae yma ddigonedd o lefydd i fynd, clybiau i ymuno 芒 nhw, cyfleusterau hamdden rhagorol ac mae 'na fywyd cymdeithasol gwych!
"Os nad ydych chi'n gyfarwydd 芒 Bangor, cewch wylio'r fideo "Cyflwyniad i Fangor" sy'n dangos beth sydd i'w wneud yn yr ardal a thu hwnt.
"Mae cyfle hefyd i weld dyddiaduron polaroid myfyrwyr o'u hwythnos gyntaf fel myfyrwyr a chyfle i glywed am brofiadau a theimladau myfyrwyr yn ystod wythnos y glas ar y fideo "Cadair y Glas".
"Rydyn ni hefyd wedi creu proffiliau o'n myfyrwyr ac ysgrifennu am y ddinas, y tafarndai, am glybiau a chymdeithasau a llawer, llawer mwy er mwyn rhoi darlun clir i chi o beth i'w ddisgwyl ym Mangor. " Ewch i i weld y wefan.
|