"Er bod Cymdeithas Archeolegol Bethesda yn eithaf tawel ar y funud, rydyn ni wedi gwneud lot o waith am hanes archeolegol Dyffryn Ogwen.
"Mi wnaethon ni ychydig o waith ar lechi cerfiedig. Rhyw ganrif a hanner neu fwy yn 么l, roedd chwarelwyr y Penrhyn yn naddu llechi, creu patrwm arnynt ac yn eu rhoi fel anrhegion priodas i gyplau ifanc, gan nodi dyddiad y briodas ar y llechan. Roeddent yn cael eu gosod o amgylch y lle t芒n mewn nifer o fythynnod yn yr ardal.
"Mi aeth y gymdeithas ati i gofnodi'r rhai oedd ar 么l a chymryd 'rubbings' ohonynt. Mi ddaru ni nodi dros 400 o lechi gwahanol a chyhoeddi llyfr - Llechi Cerfiedig Dyffryn Ogwen - dwi'n meddwl ei fod yn dal ar gael, yn enwedig yn y siop lyfrau ail law ym Methesda.
"Mi ddaru ni hefyd wneud prosiect ar gerrig canan. Byddai'r chwarelwyr yn tyllu i mewn i garreg, rhoi powdwr ynddi, yna ei thanio.
"Mae dyn o Flaenau Ffestiniog, Gruff Jones, wedi gwneud ymchwil ar gerrig canan yr ardal. Maen nhw i'w cael o bopty'r Dyffryn, o Landegai hyd at Gapel Curig.
"Aeth y gymdeithas hefyd ati i gloddio am olion pentref o'r oes efydd ym mhentref Gelli, ger Tregarth. Roedd yn ddiddorol iawn dod o hyd i olion rhyw hanner dwsin o dai - mae 'na olion digon tebyg yn Ynys Lawd ger Caergybi.
"Prif bwrpas y gymdeithas a dweud y gwir ydy mynd i weld sut gyflwr sydd ar safleoedd archeolegol o bwys yn yr ardal, yn enwedig y rhai sydd wedi eu rhestru yn y Survey of Royal and Ancient Monuments i weld sut gyflwr sydd arnynt erbyn hyn.
"Mae gen i ddiddordeb mawr yn hanes yr ardal yma. Daeth fy nhad yma o wlad Pwyl adeg y rhyfel ac mae Dyffryn Ogwen yn debyg iawn i'w gyn gartref, ond bod 'na lot mwy o goed draw yng ngwlad P诺yl! "Mi ddes i yn aelod o Gymdeithas Archeolegol Bethesda am fy mod i'n awyddus i ddysgu mwy am hanes yr ardal ac mi ddysgais am lawer iawn o bethau nad oedd gen i syniad amdanyn nhw cynt."
|