Penmon Os ydych chi'n chwilio am rywle i fynd am dro yn ardal Biwmares, mae'n debyg mai Penmon ydy un o'r llefydd mwyaf poblogaidd i'r rhan fwyaf o bobl.
Yn ogystal 芒 golygfeydd braf heibio'r trwyn a draw am Ynys Seiriol, mae yma olion hynafol a hen adeiladau difyr.
O'r hen fynachlog a'r eglwys, i'r ffynnon sanctaidd, o bosib nodwedd hyna'r safle, a'r colomendy, mae'n un o safleoedd hanesyddol pwysica'r ynys.
Y Priordy a'r eglwys ym Mhenmon. Aeth y priordy yn adfail ar 么l i Harri VIII ddiddymu'r mynachlogydd ond cafodd ei atgyweirio fel man addoli yn ystod 1853-5.