|
|
|
Cymeriadau Tanygrisiau Vivian Williams yn cofio rhai o'r cymeriadau y bu'n cydweithio efo nhw ym Mhwerdy Tanygrisiau, y Blaenau. |
|
|
|
Cyn oeri'r gwaed
Byddai'r diweddar Robin Charles, trydanwr ym Mhwerdy Tanygrisiau, yn ffond iawn o adrodd ei hanes tra roedd yn y fyddin adeg y rhyfel ac yntau'n aelod o'r gatrawd feddygol, y Medical Corps
Un o'i straeon enwocaf oedd honno amdano yn trin y Brenin Farouk o'r Aifft yn y Sahara a hwnnw'n dioddef o anhwylder a newidiai bob tro yr adroddai Bob y stori.
Yn 么l Bob cafwyd trafferth mawr rhoi trallwysiad gwaed i'r brenin yn y babell feddygol yn yr anialwch.
Oherwydd i'r hin fod mor oer yno yn y nos roedd y gwaed yn rhewi a bu'n rhaid ei ferwi cyn iddo redeg drwy'r gwythiennau!
Yn 么l troed y fforman Un o'r rhai enwoca am ei gastia oedd Dafydd Griffiths, neu Dafydd Bach i ni.
Cofiwn yn dda amdano, yn ystod hanner awr ginio, yn peintio gwadnau sgidia'r fforman tra'r oedd hwnnw'n cael pum munud o gwsg.
Bu'r criw yn dilyn 么l troed y fforman yn llythrennol y diwrnod hwnnw!
Tewach na dwr Arwel Llwyn Crai, wedyn un arall direidus iawn. Un tric ganddo fo oedd gwagio potel Turpentine a'i llenwi efo dwr a gwylio'r peintiwr yn trio teneuo paent efo'r dwr!.
Mynd 芒'r ci am dro Un o Nant Gwynat oedd y diweddar Dafydd Arnold ac arferai gadw'i gar ger siop y pentre.
Un diwrnod penderfynodd fynd i ymweld 芒'i deulu ym Mhen Llyn ac i ffwrdd a fo yn ei ffordd hamddenol, braf, arferol.
Newydd gychwyn gwelai ddyn y siop a chwsmeriaid yn codi llaw arno a chododd yntau ei law yn 么l.
Ychydig i lawr y ffordd dyma fws yn mynd heibio a'r gyrrwr a'r teithwyr i gyd yn codi dwylo ar Dafydd ac yntau'n rhyfeddu mor gyfeillgar oedd pawb.
Aeth y modur fel wennol i Rydyclady ac yno y tynnwyd sylw Dafydd at dennyn ci yn hongian wrth y towbar. Dirgelwch llwyr i bawb nes iddo ddychwelyd adref.
Roedd un o gymdogion Dafydd wedi cychwyn am dro y bore hwnnw gyda'i chi Bocsar neu Bulldog a thra'n galw yn y siop am bapur newydd wedi gadael y ci y tu allan wedi ei rwymo gerfydd ei dennyn wrth gar Dafydd.
Yn anffodus i'r ci druan ni wyddai Dafydd ddim amdano a chafodd ei dynnu i lawr y ffordd gan y car a dyna'r rheswm pam yr oedd pawb yn codi dwylo i geisio tynnu sylw'r dreifar at y trotiwr tu 么l.
Cafodd y ci ei dynnu drwy dri chan llath i lawr y ffordd. Dywedodd llygad-dyst mai rhoi'r 'br锚c on' ddaru'r anifail wrth weld Dafydd yn pasio'r t欧 a dyna sut y torrodd linc yng nghadwen y goler a'i ryddhau.
Yn ffodus i'r ci, doedd Dafydd mo'r dreifar cyflyma'n y byd ac fel y sylwodd un wag, tasa'r tennyn ddigon hir mi fasa'r ci wedi'i ofartecio i'w rybuddio!
Yn ei bryder aeth Dafydd i edrych am y ci a dyna lle'r oedd o, druan, o flaen y t芒n ar wastad ei gefn a'i bawennau tendar i fyny'n yr awyr ac felly y buont am ddyddiau.
Chafodd o mo'i rwymo'n sownd ym mympar car neb ar 么l hynny.
Rhoi nhroed ynddi I mi, y cymeriad mwyaf ohonynt i gyd oedd un a fu'n bartner i mi yn y blynyddoedd cynnar yn y pwerdy ac a fu'n gyfaill agos iawn y diweddar Goronwy Owain Davies G'ronwy Post neu Giaffar.
Daeth cnoc ar y drws acw un diwrnod a dynes o Danygrisiau yn gafael mewn p芒r o sgidia ac yn gofyn imi eu sodli nhw iddi. Mi ges gryn drafferth egluro nad o'n i'n grydd Gronwy wedi deud wrthi mod i'n un da am drwsio sgidia.
Tipyn o bry Un shifft nos yn ystod yr haf tua diwedd y 1970au gwelais chwilen fawr ddu wedi marw.
Wrth law gen i roedd potel o inc gwyn a ddefnyddiwn i beintio dros wallau teipio a phensilau felt tip coch a gwyrdd felly mi es ati i beintio'r chwilen yn wyn, ychwanegu sbotia coch a gwyrdd ac er yr edrychai yn effeithiol iawn doedd hi ddim byd tebyg i unrhyw bry na chwilen ar wyneb daear!
Y pnawn hwnnw es i lawr i'r ardd yn Nolmoch lle'r oedd Gron yn chwynnu letys. Tra roedd ei gefn wedi troi gollyngais y chwilen yn dwt yng nghanol y letysan fwyaf cyn mynd i wneud ychydig o arddio fy hun.
Y noson honno yng nghaban y gwaith dywedodd Gron iddo ddarganfod y pry od. "Ew roedd o'n dlws fel tasa rhywun wedi lluchio blawd arno fo a rhyw sbotia coch a gwyrdd ar i gefn o."
Cyn iddo fynd ymhellach, torrais ar ei draws, "Colorado Beetle mae na bla ohonyn nhw leni," gan fynd ati i'w berswadio ei bod yn drosedd peidio a riportio gweld y pryfyn ac y byddai economi amaethyddol y wlad mewn perygl.
Erbyn diwedd y shifft llwyddais, gyda chefnogaeth Bob Dafis, garddwr arall, i'w berswadio i fynd 芒'r chwilen i'r pol卯s stesion mewn bocs matsus.
Beth ddigwyddodd wedyn, nid yw'n sicr, ond mae rhyw s么n i'r heddlu gael tipyn o hwyl wrth ddadansoddi'r Colorado Beetle! Hen luniau Pwerdy Tanygrisiau
|
|
|
|
|
|