AMSER HAMDDEN
Eifion, Trawsfynydd: "Dwi 'di byw yn Traws ar hyd fy mywyd. Mae 'na dipyn o bethau i'w gwneud yna a hefyd lot o blant ein hoed ni yna. 'Da ni'n gallu chwarae snwcer, p锚l-droed a 'sgota - dwi'n mynd 'sgota ar Lyn Traws bob penwythnos bron iawn ac yn dal rhywbeth bob tro fel brithyll, brithyll seithliw (rainbow trout,) neu ddraenogiad (perch). "Pysgota pluen 'da ni'n ei wneud fwyaf, er ei bod yn bosib heirio cwch o'r clwb i fynd allan ar y llyn. Ond fel arfer dwi'n 'sgota ger y llyn, heb fod yn bell o'r pentref."
Si么n, Trawsfynydd: "Dwi'n mynd ar fy meic ar y traciau yng Nghoed y Brenin bob wythnos bron. Mae 'na lot o draciau gwahanol, rhai hir iawn neu rai byrrach - y traciau gorau yn Ewrop."
Ceri, Manod: "Dwi wedi hoffi saethu colomennod clai ers tua blwyddyn r诺an a dwi'n meddwl cychwyn saethu ffesantod cyn bo hir, falle yn St芒d y Penrhyn.
"Ddaru fy ewythr fynd 芒 fi lawr i Traws un diwrnod i fynd i saethu a dwi 'di bod 芒 diddordeb mawr ers hynny.
"'Da ni'n defnyddio gynnau 12-b么r, neu trap guns efo baril rhwng 28 a 32 o hyd. Mae'n rhaid gwisgo mwffs i arbed niwed i'r clustiau a weithiau menig i cael gwell gafael ar y gwn.
"Os 'da chi eisiau i'r disc (y 'golomen') ddod allan o'r trap, rhaid gweiddi pull, yna anelu. Dim colomennod go iawn ydyn nhw wrth gwrs, ond peth fel ffrisbi clai.
"Mi wnes i gystadlu mewn cystadleuaeth cyn 'Dolig, a ddes i'n ail ac enillais ddarn o borc!"
Mathew, Llanffestiniog:"Dwi'n hoffi sglefrfyrddio. Dwi wedi bod yn byrddio ers ryw dair blynedd er nad ydw i ddim yn dda iawn! Dwi'n gallu gwneud ollei, sef gwneud bunny hop bach ar y sglefr fwrdd a dwi jest iawn yn gallu gwneud kick back, sef cicio'r bwrdd oddi tanoch chi a'i fflipio.
"Mi wnes i gychwyn gan fod fy ffrindiau yn sglefrfyrddio. Da ni wedi cael parc sglefrio yma ers i mi gychwyn ac mae 'na amrywiaeth o blant yn dod draw.
"Dwi 'di cael ryw ddau neu dri o fyrddau'n barod - dwi'n defnyddio'r hen rai i drwsio'r un newydd."
BOD MEWN BAND
Paul, Manod: "Roedden ni'n bored, felly ddaru ni ddechrau band. Rydw i, Gareth, Llio, Daniel a Ceri ynddo fo. Dwi ar y dryms, Gareth ar y git芒r, Ceri ar y git芒r rhythm, Daniel ar y b芒s a Llio yn canu."'Da ni wedi recordio un g芒n ar CD y Gwallgofiaid - Geiriau Gwir.
"Y band i gyd sy'n sgwennu'r caneuon. 'Da ni'n dod fyny efo gwahanol bethau - Llio efo geiriau, Ceri a fi efo riff git芒r."
Gareth, Gellilydan: "Da ni'n chwarae reggae ran fwyaf, yn cael ein hysbrydoliaeth gan Bob Marley, Keane a King Sativa.
"'Da ni 'di bod yn mynd am bron i flwyddyn ac wedi gwneud gig efo Rhys Roberts o'r Gwallgofiaid. Ddaru ni wneud gig gwych yn Llangollen hefyd, er fod Llio wedi colli ei llais! Cystadleuaeth Brwydr y Bandiau oedd o felly yn anffodus, oherwydd ei llais, ddaru ni ddim mynd ymhellach.
"Y gig gwaethaf oedd un yn Blaenau. Mi wnaeth rhai pobl luchio dillad aton ni, sy'n dda, ond dim pan mai bechgyn sy'n ei wneud o!"
Ceri, Manod: "Os oes rhywun eisiau bod yn manager, 'da ni'n agored i gynigion! Rydan ni angen rhywun i helpu i drefnu gigs a ballu. Cysylltwch efo ni ar 01766 832166."
CHWALU'R CHWECHED
Fflur, Trawsfynydd: "Does yna ddim chweched wedi bod yn Blaenau ers blynyddoedd, ond dwi'n meddwl fod cael un yn syniad da. Pan mae 'na chweched dosbarth, mae gan weddill yr ysgol rywun i edrych i fyny iddynt os ydyn nhw'n poeni am rywbeth.
"Dwi am fynd i Ysgol y Berwyn yn y Bala, er y bydd yn rhaid i mi gael lifft i lawr i'r bws, yna mi fydd hi'n daith o ryw ugain munud ar y bws i gyrraedd Bala.
"Mae ganddon ni rai ffrindiau yn y Berwyn a Llanrwst ac maen nhw'n r卯li licio yno, ac wedi gwneud ffrindiau da yn y chweched felly dwi'n edrych ymlaen.
"Ond dwi ddim yn gweld dim sens mewn cau'r chweched. Mi fyswn i'n hoffi ailagor un yn Ysgol y Moelwyn."
Llio, Llanffestiniog: "Dwi'n cytuno. Dwi'n teimlo'n fwy cartrefol mewn ysgol 'na choleg. 'Da chi'n cael eich gwthio i wneud y gwaith a falle ei bod yn bosib bod yn rhy laid back yn y coleg.
"Mi fydd yn rhaid i ni fynd i ysgol arall neu'r coleg yn Nolgellau ond does neb yn hoffi coleg, felly mi wna i fynd i un ai Lanrwst neu Ddyffryn Nantlle."