Cynhaliodd Cororion eu cyngerdd cyntaf ym mis Mai 2005 dan arweiniad Beti Rhys, athrawes gerdd yn Ysgol Syr Hugh Owen ond mae gan lywydd anrhydeddus y c么r, Brenda Wyn Jones, gysylltiad uniongyrchol 芒 ch么r merched cyntaf Bethesda a sefydlwyd adeg Streic Fawr y Penrhyn. Nain Brenda, Mary Ellen Parry, oedd arweinydd y c么r cyntaf hwnnw a sefydlwyd ddechrau Mai 1901. Ugain o ferched ifanc lleol di-briod oedd yr aelodau bryd hynny ac fe fydden nhw'n gadael Bethesda am hyd at dri mis ar y tro i gynnal cyngherddau ar hyd a lled Prydain i godi arian at ap锚l y streic. Dros gyfnod o ddwy flynedd, mi godon nhw 拢8,000 tuag at y Penrhyn Relief Fund a chael croeso mawr gan bobl mewn llefydd fel Sheffield, Bryste, Llundain a Chaeredin. Yn ogystal 芒 chodi arian, fe helpon nhw hefyd i ledaenu gwybodaeth am y streic drwy'r wlad. Pan ddaeth y streic i ben, fe roddodd y c么r y gorau iddi gan ganu am y tro olaf ym mis Gorffennaf 1903. Ond bellach, mae merched yr ardal yn ailafael yn y traddodiad, fel yr esbonia yr arweinydd Beti Rhys: "Dim ond ers ychydig fisoedd rydyn ni wedi dechrau ac mi gychwynnodd y cyfan mewn parti Nos Galan y llynedd pan ddaru rhai o genod yr ardal ofyn a fyddai gen i ddiddordeb mewn arwain c么r. Dwi'n bennaeth yn adran gerdd Ysgol Syr Huw Owen ac wedi arwain sawl c么r o blant ac roeddwn yn awyddus i helpu efo'r c么r newydd yma. "Mi ddaeth tua 25 i'r cyfarfod cyntaf ac erbyn hyn mae bron i 50 yn dod bob nos Iau am saith o'r gloch i Ysgol Gynradd Tregarth lle rydyn ni'n ymarfer. "'Da ni'n canu bob math o gerddoriaeth - caneuon arferol ar gyfer c么r meched a rhai gospel hefyd. Da ni'n gobeithio canu darnau cyfoes cyn bo hir, rhai newydd sbon. "Yn ein cyngerdd cyntaf ym mis Mai roedd Neuadd Ogwen ym Methesda yn orlawn. Roedden wedi llwyddo i ddysgu pum c芒n ar ei chyfer ac roedd yn llwyddiant mawr. "Rydym yn gobeithio cystadlu mewn eisteddfodau a pherfformio mewn mwy o gyngherddau yn y dyfodol." Yn Nhregarth hefyd, lle mae'r c么r yn ymarfer, mae'r llyn sydd wedi rhoi ei enw i'r c么r, sef Llyn Cororion, lle mae olion Cytiau Gwyddelod o'r Oes Efydd i'w gweld o hyd.
|