Gwasanaeth cynnar yn y bore ar fore'r Nadolig yw'r Plygain. Er iddo farw o'r tir dros y ganrif ddiwethaf, mae'r hen wasanaeth wedi ei adfywio mewn nifer o eglwysi a chapeli yn yr ardal:
Hanes y Plygain ...
Er mai rhan o'r traddodiad llafar oedd carolau'r Plygain, yn ffodus i ni, aeth John Owen, Dwyran, ati i gofnodi'r hen ganeuon a genid yn Eglwys Llangeinwen, Ynys M么n. Dyma Arfon yn canu carol Wel dyma'r bore, gore'i gyd, ar fesur Ffarwel Ned Puw, y geiriau gan Dafydd Ddu, Eryri.
Wel dyma'r bore, gore 'gyd ...
Pwy oedd Ned Puw a pham fod enwau fel Siwsan Lygatddu a'r Crimson Felfed ar y caneuon crefyddol yma? Er mai dathlu genedigaeth Crist y mae'r geiriau, mae gwreiddiau cerddorol carolau'r Plygain yn ddwfn yn nhraddodiad gwerin Cymru.
Traddodiad yr alaw werin ...
Traddodiad y Plygain yn y canolbarth Mwy am y Plygain a thraddodiadau eraill y Nadolig
|