Nid Robin McBryde yw'r unig ogleddwr i ennill y Gamp Lawn yn y blynyddoedd diweddar. Dyma sut gwnaeth Cai Griffiths o Bontnewydd ddilyn y b锚l hirgron i'r de a dod yn rhan o lwyddiant t卯m Cymru o dan 21. "Wnes i ddim cychwyn chwarae rygbi tan oeddwn i'n 13 yn Ysgol Syr Huw Owen. Roedd wastad yn well gen i chwarae p锚l-droed ond mi wnes i dyfu'n rhy fawr i'r g锚m yna! Fy safle yw prop pen tyn, sef rhif 3 yn y sgrym. "Mi wnes i astudio hamdden a chwaraeon yn y chweched dosbarth ac mi ges i fy newis i chwarae dros dimau Ieuenctid Cymru ac Ysgolion Cymru Mi ddaru Lyn Jones, hyfforddwr y Gweilch, ddod i wylio g锚m Ysgolion Cymru ac mi ges i'r cynnig i fynd lawr i Gastell Nedd. "Mae 'na ddigon o gyfleoedd yn y gogledd i chwarae rygbi, er mae'n bwysig bod y chwaraewyr ifanc yn dod i olwg timau mawr y de. Mae'n rhaid iddyn nhw felly chwarae mwy yn erbyn timau o'r de - dim jest timau o'r gogledd yn chwarae eu gilydd. "Dwi'n chwarae i Gastell Nedd ac yn hyfforddi efo sgwad y Gweilch. Dwi'n gobeithio cael cyfle i chwarae i'r Gweilch y flwyddyn nesaf ond mae rhai o brops gorau Cymru ar y t卯m ar hyn o bryd - Adam Jones, Duncan Jones, Paul James. Maen nhw i gyd yn barod i gynnig cyngor a dwi'n dysgu lot ganddynt. "Dwi wedi mwynhau symud lawr i'r de i chwarae, er ges i stic gan y bechgyn am fy acen i gychwyn! Does na ddim lot o Gofis lawr fan hyn. "Dwi hefyd wedi chwarae i dimau o dan 19 a 21 Cymru. Roedd y t卯m dan 21 llynedd yn un ifanc a ddaru ni gyd 'jelio' yn syth, ennill profiad a magu hyder erbyn tymor 2004/5. "Y g锚m anoddaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad (o dan 21) oedd yr un yn erbyn Ffrainc. Roedd yn rhaid i ni amddiffyn ar ein llinell ni am dros 20 munud cyn i ni lwyddo i ennill ac wedyn dechrau meddwl bod ganddon ni'r gallu i ennill y gamp lawn. "Mae bod yn chwaraewr rygbi proffesiynol yn wych a dwi'n dysgu rhywbeth newydd bob dydd. Felly, i unrhyw un sydd eisiau gyrfa fel chwaraewr rygbi - gwrandewch ar yr hyfforddwyr a gwnewch eich gorau ym mhob g锚m - 'da chi byth yn gwybod pwy sy'n gwylio!"
|