"Mae sawl cynllun yn hybu chwaraeon yn yr ardal yma. Mae cynllun cymorth grant ar gael gan Gyngor Chwaraeon Cymru a hefyd y cynllun Cist Cymunedol. Caiff y cynllun hwnnw ei ariannu gan y loteri i gefnogi datblygiad chwaraeon yn y gymuned.
"Mae croeso i unrhyw un o'r gymuned wneud cais i un o bwyllgorau cist cymunedol Gwynedd, Conwy neu Ynys M么n."
Cerdyn aur gogledd Cymru
"Dyma'r cynllun sy'n rhoi cyfle i bobl ifanc sydd wedi cynrychioli Cymru mewn unrhyw chwaraeon ddefnyddio canolfannau chwaraeon gogledd Cymru yn rhad ac am ddim.
"Rydyn ni yng Ngwynedd hefyd yn cynnig Cerdyn Aur Gwynedd, sy'n galluogi i unrhyw un sydd wedi cystadlu dros Wynedd ddefnyddio cyfleusterau hamdden y sir am ddim."
Campau'r Ddraig
"Diben y cynllun yma ydy rhoi mwy o gyfle i blant gymryd rhan mewn chwaraeon mewn awyrgylch ddiogel, gyda hyfforddiant o safon - yn enwedig plant sydd ychydig bach yn ofnus o fod mewn amgylchedd clwb chwaraeon. Cael hwyl a mwynhau ydy pwrpas y clybiau.
"Caiff y cynllun ei redeg ar y cyd rhwng Cyngor Chwaraeon Cymru a'r awdurdodau lleol.
"Nod y cynllun yw annog plant rhwng saith ac 11 oed i gymryd rhan mewn chwaraeon tu allan i oriau ysgol.
"Bydd swyddog yn gweithio gydag ysgol gynradd i helpu i sefydlu clwb ar 么l ysgol, gan gynnig bag o offer gwerth 拢250 a chymorth gyda'r hyfforddiant. Caiff pob ysgol offer ar gyfer dau fath o chwaraeon gwahanol, yna mae'n rhaid i'r ysgol dalu 20% o gostau'r offer ar gyfer chwaraeon eraill.
"Mae'r clybiau yn cael eu cynnal gan athrawon, rhieni neu wirfoddolwyr eraill sydd 芒 diddordeb mewn helpu'r ysgol.
"Bydd pob gwirfoddolwr yn cael ei hyfforddi i'w galluogi i gynnal sesiynau yn ddiogel a hwylus ac yna byddant yn cael eu hannog i fynd ymlaen i wneud cwrs mewn chwaraeon penodol.
"Ar hyn o bryd, mae'r cynllun yn cynnwys p锚l-droed, rygbi, hoci, p锚l-rwyd, tennis, criced ac athletau.
"Mae tua 80% o ysgolion cynradd Gwynedd wedi cychwyn clybiau gyda chymorth Campau'r Draig ac mae cynlluniau ar y gweill i ymestyn y cymorth yma i glybiau chwaraeon hefyd."