"Dwi'n si诺r 'mod i'n chwarae p锚l-droed ers pan roeddwn yn fach iawn, ond yn ddigon mawr i allu cicio p锚l! Dwi'n cofio wedyn dechrau chwarae i d卯m yr Urdd ym Mhenrhosgarnedd ym Mangor cyn cael y cyfle i chwarae i d卯m Maes y Bryn rhwng 9 ac 16 mlwydd oed.
Roeddwn yn mynd i ymarfer am awr bob wythnos, chwarae g锚m bob penwythnos, mynd 芒'r b锚l i'r ysgol i chwarae bob eiliad oedd yn bosib a mynd syth i'r parc efo fy ffrindiau ar 么l ysgol. Roeddwn yn chwarae bron iawn bob cyfle gawn i.
Chwarae p锚l-droed yn broffesiynol oedd beth oeddwn wastad eisiau ei wneud, ond mae hynna'n freuddwyd i bron iawn pob hogyn bach. Dydy o ddim yn golygu fod y freuddwyd am ddod yn wir, ond dwi'n lwcus - mae lwc yn bwysig.
Ges i'r cyfle i fynd i ymarfer efo Porthmadog ar 么l gorffen yn yr ysgol. Ar 么l un tymor o fod ar y fainc, cefais y dewis o barhau efo nhw - a pharhau ar y fainc - neu chwarae i ail d卯m Bangor. Es i Fangor gan y baswn yn cael chwarae bob wythnos ac ar 么l rhyw fis, cefais fy newis i chwarae i'r t卯m cyntaf.
Yr adeg honno, roeddwn yn semi-pro - ymarfer ddwywaith yr wythnos a g锚m ar y penwythnos. Roeddwn yn astudio Sports Science yn y coleg ar yr un pryd, ond cymerais flwyddyn allan wedyn i ganolbwyntio ar b锚l-droed, tr茂o ffeindio clwb proffesiynol i chwarae iddyn nhw. Ond cefais fy anafu a wnes i ddim chwarae lot o gwbwl.
Felly es i'r brifysgol, ond ar 么l blwyddyn, yn dal yn chware i Fangor, cefais fy ngwahodd i fynd ar dreial i Abertawe - a dyna fo efo'r brifysgol wedyn!
Gwelodd is-reolwr Cymru fi'n chwarae efo t卯m semi-pro Cymru, a dywedodd efallai y byddai'n s么n wrth Kenny Jackett, rheolwr Abertawe amdanaf. Daeth Kenny i weld g锚m Bangor yn Ewrop a chynigodd dreial imi am fis.
Ond dydy cael treial ddim yn golygu eich bod am chwarae i'r clwb - roeddwn wedi cael sawl un o'r blaen. Rhaid cadw eich pen i lawr a gweithio'n galed, hyd yn oed ar 么l cael siom wrth gael eich gwrthod am y tro cyntaf, ail a thrydydd. Dydy o ddim yn fis neis iawn chwaith. Rhaid ichi brofi eich hun yn erbyn chwaraewyr proffesiynol sydd o bosib o well safon na chi. Ond roeddwn yn lwcus, roedd y rheolwr yn fy hoffi a chefais gynnig i aros.
Mae bod yn broffesiynol yn fyd gwahanol. Yn amlwg, dwi'n cael fy nhalu i wneud beth dwi'n ei garu - gwaith i fi ydy mynd allan ar y cae a chwarae p锚l-droed! Ar 么l ymarfer yn y bore, dwi adref am ddau o'r gloch ac mae'n bwysig restio, felly mae gwylio teledu yn y p'nawn yn waith hefyd!
Y peth pwysig i bobl ifanc yw mwynhau chwarae. Mae'n anoddach yng ngogledd Cymru gan fod yn rhaid i chi fyw o fewn awr a hanner i glwb proffesiynol cyn i chi gael fod ar eu llyfrau o dan 16 oed, ond os ydych chi'n ymarfer, ac yn ddigon dda, mi gewch chi gyfle rhywle, rhywbryd.
Dwi yn meddwl am fywyd ar 么l p锚l-droed. Gan mod i wedi gorfod peidio chwarae oherwydd anaf yn 2006/7, dwi wedi bod yn gwneud ychydig o waith teledu a radio, a mwynhau. Mae'r ffaith fy mod yn gallu siarad Cymraeg yn bendant yn help i mi gael gwaith a dyna beth faswn yn hoffi ei wneud ar 么l gorffen chwarae."