Mae Karen Williams o Langefni yn rheolwraig Clwb P锚l-droed Merched Llangefni: "Er mai dim ond ddwy flynedd yn 么l y cafodd Cynghrair Merched y Gogledd ei sefydlu mae wedi bod yn llwyddiant mawr. "Ro'n i'n hoffi chwarae p锚l-droed efo fy nhaid erioed ac roedd gen i athrawes chwaraeon gwych yn Ysgol Uwchradd David Hughes, sef Susan Bracegirdle, a sefydlodd d卯m genethod yno. Mi f没m i'n chwarae i Fangor wedyn cyn symud i Langefni rai blynyddoedd yn 么l. "Mae'r rhan fwyaf o dimau gogledd orllewin Cymru yn chwarae yng Nghynghrair Merched Gogledd Cymru. Mae'r timau hynny yn cynnwys Bae Cinmel, Cyffordd Llandudno a Phwllheli. "Mae dau o dimau'r gogledd orllewin - Llangefni sy'n defnyddio clwb p锚l-droed y dref a Chaernarfon, sydd wedi ymgartrefu yn yr Ofal - yn chwarae yng Nghynghrair Gogledd Orllewin Lloegr yn erbyn timau Lloegr. "Mi fydd gemau merched yn cael eu chwarae fel arfer ar ddydd Sul gan nad ydy'r caeau ar gael ar ddydd Sadwrn!" P锚l-droed dynionP锚l-droed ieuenctid
|