DYLAN A MEINIR O'R FAENOL
Dydd Llun, Awst 28, 成人论坛 Radio Cymru, 2.45pm
T脗N Y DDRAIG
Dydd Llun, Awst 28, 成人论坛 Radio Cymru, 8pm
bbc.co.uk/radiocymru
Gwrando'n fyw
Mae cyngerdd T芒n y Ddraig wedi hen ennill ei blwyf fel finale cyffrous i 糯yl y Faenol, a dyw eleni yn ddim gwahanol. Ond yr hyn sydd yn wahanol yw y bydd 成人论坛 Cymru yn darlledu'r cyngerdd yn fyw yn ei holl gyffro, ar 成人论坛 Radio Cymru ac ar y we, am y tro cyntaf erioed.
Ac am y tro cyntaf hefyd bydd Radio Cymru yn darlledu yn y prynhawn, er mwyn cyfleu holl gynnwrf a phrysurdeb y paratoi.
Yn Dylan a Meinir o'r Faenol (Llun, Awst 28) bydd Dylan Wyn a Meinir Gwilym yn crwydro'r safle yn y Faenol gan ddod 芒 holl fwrlwm y paratoi. Mi fydd y ddau yn rhoi cip y tu 么l y llwyfan i weld beth sy'n mynd ymlaen wrth i'r llwyfan ei hun gael ei wisgo a'r perfformwyr ymarfer. Bydd y ddau hefyd yn cael sgwrs 芒'r rhai awyddus hynny fydd yn siwr o fod yn ciwio yn barod i gael safle da, ac yn dal hwyl yr achlysur wrth i bawb edrych ymlaen am wledd y nos.
Y bandiau a fydd wrthi yn y cyngerdd yw Anweledig, The Proclaimers, Huw Jones a'r Band, Elin Fflur a'r Band, Dyfrig Evans a Nathan Williams a'r Band, a bydd Radio Cymru yn darlledu'r cyngerdd yn fyw am y tro cyntaf erioed, o 8pm ymlaen, ar yr orsaf ac ar y we.
I wneud yn siwr bod y gwrandawyr yn cael gwledd ddi-baid, mae Radio Cymru wedi trefnu setiau acwstig arbennig a fydd yn cael eu cynnal rhwng y prif berfformwyr, fel na fydd oedi gwag rhwng yr perfformiadau, ond yn hytrach wledd ddi-dor, ddi-baid o oreuon cerddorol Cymru.
Bydd y setiau acwstig yn cynnwys Mim Twm Llai, Dan Amor, Meinir Gwilym a Gwyneth Glyn.
I wrando trwy'r wefan, ewch i bbc.co.uk/radiocymru
SIAN PARI HUWS FOR JAMIE OWEN
Dydd Llun G诺yl y Banc, Awst 28, 成人论坛 Radio Wales, 11am
Mae 成人论坛 Radio Wales hefyd yn rhannu rhannau gorau'r 诺yl eleni gyda'i gwrandawyr. Ar Ddydd Llun G诺yl y Banc, bydd Si芒n Pari Huws yn eistedd yn sedd boreol Jamie Owen, i ddod 芒'r sioe yn fyw o'r Faenol.
IN CONCERT SPECIAL
Dydd Llun G诺yl y Banc, Awst 28, 成人论坛 Radio Wales, 8pm
Yna am 8pm, bydd 成人论坛 Radio Wales yn darlledu In Concert Special gyda'r cantorion o'r Alban The Proclaimers. Bydd y cantorion gwerin, sy'n fwyaf adnabyddus am ganeuon stompiog fel Letter From America ac I'm Gonna Be (500 Miles) - yn perfformio yn noson T芒n y Ddraig wedi haf o ymddangosiadau byw mewn gwyliau fel Isle of Wight Festival a T In The Park.
SHIRLEY BASSEY AT FAENOL
Dydd Mercher, Awst 30, 成人论坛 One Wales, 9pm
Bydd diva Cymru, y Foneddiges Shirley Bassey yn tanio'r llwyfan mewn cawod o sequins sbarcli yn sbloets awyr agored Bryn Terfel yn ng诺yl y Faenol.
A bydd camer芒u 成人论坛 Cymru yno i ddal pob eiliad o gyngerdd cyntaf y ferch o Tiger Bay yng ngogledd Cymru ers ei pherfformiad yng ngala Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen yn 2003.
Yn Shirley Bassey at Faenol bydd Shirley yn perfformio nifer o'i chaneuon enwocaf dros bum degawd ar frig y diwydiant cerddoriaeth yn ei steil ddihafal ei hun.
Felly, gwnewch yn si诺r eich bod yn troi'r s诺n i fyny a'r golau i lawr wrth i ddiva enwoca'r byd eich llorio gyda Goldfinger, Diamonds Are Forever, I (Who Have Nothing) Big Spender ynghanol prydferthwch st芒d y Faenol.
T脗N Y DDRAIG
Nos Sadwrn, 2 Medi, 7.50pm, S4C
Mae elfen gref o nostalgia yn perthyn i gyngerdd T芒n y Ddraig, y noson sy'n cloi G诺yl y Faenol bob blwyddyn.
Eleni, y canwr fydd yn ein tywys yn 么l i ddyddiau da'r 1970au fydd cyn Brif Weithredwr S4C, Huw Jones, a bydd cyfle i fwynhau perfformiad Huw a gweddill s锚r T芒n y Ddraig eleni mewn rhaglen uchafbwyntiau arbennig nos Sadwrn ar S4C.
Cyfaddefa Huw, oedd yn ganwr poblogaidd yn y 1960au a'r 1970au cynnar, ei fod yn teimlo'n nerfus wrth feddwl am gamu i'r llwyfan ar y noson.
"Pan dderbyniais y gwahoddiad wnes i fethu 芒 meddwl am esgus ddigon da i wrthod y cynnig, ac yr un pryd, rhywsut, roedd o i'w weld yn syniad da! Mi roedd 'na ap锚l hefyd yn y syniad o chwarae gyda band. O'r blaen ro'n i'n llwyr ddibynnol ar fy ngit芒r fy hun ac mae hwnnw allan o bractis erbyn hyn!"
Mi wnaeth Huw roi'r gorau i ganu'n gyhoeddus dros 30 mlynedd yn 么l, ym 1975. Roedd yn hynod o brysur yn dilyn sefydlu'r cwmni recordiau Sain. "Mi ro'n i'n rhoi fy egni creadigol i mewn i'r cwmni ac mi wnes i roi'r gorau i sgwennu caneuon. Doedd gen i ddim digon o amser."
Serch hynny, dywed ei fod wedi mwynhau'r canu hyd nes i'w brysurdeb ei orfodi i roi'r gorau iddi.
"Roedd yn gr锚t cael bod yn rhan o gyfnod cynhyrfus y 1960au a'r 1970au, gwneud lot o ffrindiau a dod i 'nabod Cymru'n dda iawn oherwydd fy mod i'n teithio i ryw neuadd bentref yn rhywle bob penwythnos.
"Os oes rhaid i mi ddewis fy hoff g芒n o'r cyfnod hwnnw, mi faswn i'n gorfod d'eud D诺r. Mae'n g芒n sy'n cynrychioli gymaint. Mae'n g芒n wahanol ei natur i'r rhan fwyaf o ganeuon pop Gymraeg at y pryd. Ac mae'n g芒n sy'n gofyn am lot o egni i'w chanu. Mae'n creu argraff ac yn ennyn ymateb oddi wrth y gynulleidfa, a dyma oedd record gyntaf Sain."
Mae Huw yn dipyn o ffan o 糯yl y Faenol.
"Dwi'n edmygu Bryn Terfel am iddo ei chreu hi, a'i chynnal hi ac ymestyn ei hap锚l hi i gynnwys ystod eang o gerddoriaeth. Mae'r mix yn wych. Mae o hefyd wedi deall beth ydy cryfder ac ap锚l canu pop Cymraeg ac mae'n mynnu iddi gael ei lle yn yr 诺yl."
Yn rhannu llwyfan T芒n y Ddraig efo Huw eleni bydd Nathan Williams, Dyfrig Evans, Elin Fflur a'r Band, y Proclaimers, ac i orffen y noson, y band o'r Blaenau, Anweledig.
GALA OPERATIG G糯YL Y FAENOL 2006
Nos Sul, 3 Medi, 8.00pm, S4C
Yn ymuno 芒 Bryn Terfel ar lwyfan Gala Operatig G诺yl y Faenol 2006 bydd y soprano fyd-enwog, Angela Gheorghiu, a'r tenor talentog, Rolando Villaz贸n, a bydd uchafbwyntiau o'r cyngerdd mawreddog yn cael eu darlledu ar S4C, nos Sul 3 Medi.
"Mae'r 诺yl hon yn denu rhai o enwau mwyaf y byd opera i'w llwyfan bob blwyddyn ac rydym yn croesawu rhai o s锚r amlycaf y diwydiant i'r Faenol ac i S4C yn 2006," meddai Ceri Sherlock, Comisiynydd Cerdd S4C.
Yn wreiddiol o Adjud yn Rwmania, mynychodd Angela Gheorghiu Academi Gerdd Bucharest o dan diwtoriaeth Nia Barbu cyn graddio ym 1992 a pherfformio'n broffesiynol am y tro cyntaf yn ystod yr un flwyddyn gyda Chwmni Opera Covent Garden.
Erbyn heddiw, mae hi'n cael ei chydnabod fel un o sopranos gorau'r byd, ac hefyd fel diva diarhebol y s卯n opera ryngwladol.
Yn briod 芒'r tenor Ffrengig, Roberto Alagna, mae'n debyg i lais anhygoel Gheorghiu beri i'r arweinydd byd-enwog, George Solti, gr茂o pan glywodd ef hi'n canu am y tro cyntaf.
Ond, yn 么l pob s么n, mae ochr dywyll i'r gantores sy'n cael ei hadnabod fel 'Draculette' gan rai yn y diwydiant. Magodd Gheorghiu enw drwg yn dilyn ei diswyddiad gan Gwmni Opera Metropolitan Efrog Newydd ym 1999 am wrthod syniadau cyfarwyddwr y cwmni, Franco Zeffirelli a hefyd am wrthod gwisgo penwisg benfelen draddodiadol cymeriad Micaela yn yr opera Carmen.
Er hynny, oherwydd ei llais gwefreiddiol a'i phrydferthwch naturiol, Angela Gheorghiu yw un o gantorion mwyaf poblogaidd y byd opera ac uchafbwynt G诺yl y Faenol eleni.
Cafodd y tenor Rolando Villaz贸n ei eni a'i fagu yn Ninas Mecsico ym 1972 cyn dechrau ar ei yrfa operatig ym 1990 o dan diwtoriaeth Arturo Nieto ac Enrique Jaso. Erbyn heddiw, ef yw un o denoriaid mwyaf adnabyddus y byd ac mae wedi perfformio gyda chwmn茂au Opera Metropolitan Efrog Newydd a Covent Garden, ymhlith nifer.
Mae Rolando wedi ennill nifer o wobrau yn ddiweddar, gan gynnwys 'Canwr y Flwyddyn 2005' Gwobrau Cerddoriaeth Clasurol ECHO, yn ogystal 芒 chael ei enwebu am Grammy am ei gryno-ddisg o ari芒u Ffrengig.
Cerddorfa a Chorws Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, o dan arweiniad Gareth Jones, fydd yn cyfeilio i'r cyngerdd.