Ap锚l s'gynna i yn y pwt yma i'r rhai ohonom sydd yn boenus yngl欧n 芒'r hyn i sy'n cael ei gynnig inni ar 么l inni gyrraedd 16 oed.
Mae'r sefyllfa yn gwneud i ngwaed i ferwi, ond mi i ddeuda i rywfaint o'n hanes i chi gael dallt pam dw i'n corddi.
Dwi'n byw ym Mhenrhyndeudraeth yn Sir Feirionnydd, ac mae plant Penrhyn ar 么l bod yn ysgol fach Cefn Coch, yn cael mynd ar dr锚n i Ysgol Ardudwy, Harlech. A dyna ddigwyddodd i mi. Giang gl锚n ohona ni yn ei heglu hi am Harlech bob bora am bum mlynedd. Chwerthin a chwysu, a'r athrawon druan yn trio dal i pen rheswm efo ni, ac yn cynhyrfu'n lan am nad oedd 'na si芒p ar ein gwaith cwrs ni.
Ninnau wedyn fel rhyw sliwennod efo'n wynebau diniwed yn creu esgusodion amrywiol i ohirio wynebu'r dyddiad cau.
Cael hwyl yn gweld Mr ... yn chwythu ffiws oherwydd bod rhywun i wedi troi'r tapiau nwy ymlaen. Sagas di-ddiwedd cariadon. Cynnwrf Eisteddfod yr Urdd, a'r sioeau cerdd ... Ond daeth diwedd ar y dyddia' da.
Am ryw reswm anhysbys, mae rhywun yn y goruwch leoedd wedi honni fod disgyblion de Gwynedd yn well eu byd wrth adael eu hysgolion yn 16 oed, gadael llawer o'u ffrindia a'r athrawon oedd erbyn hyn wedi gweld drwy ein sioe ac yn gwybod pwy oedd isio cic neu hwb.
Mae o i fod yn fwy llesol inni deithio tuag awr y dydd, a dod adra am 5 o'r gloch, a chael darlithwyr diarth. Ond mi fasa ni'n cael teimlo'n grand yn fyfyrwyr coleg yn hytrach na disgyblion ysgol, a chael gwared 芒'r cudyllod o athrawon.
Ychydig oedd wedi dotio efo'r syniad yma, ac roedd 'na dipyn o grafu pen yn ein plith yngl欧n 芒 lle oedd orau i ni fynd. Aeth dipyn i Ddolgellau, rhai i Bwllheli, rhai Glynllifon - a phob safle dros 20 milltir i ffwrdd, a rhai i Goleg Menai hyd yn oed sydd oddeutu 40 milltir i ffwrdd.
Teimlai rhai ohonom, fodd bynnag, y byddem ar ein hennill o fod mewn awyrgylch ysgol, gydag athrawon yn ein rhoi ar ben ffordd, a breintiau a chyfrifoldeb bod mewn chweched dosbarth. Felly, aeth un i ddosbarth chwech Brynrefail, dau i chweched dosbarth Friars ym Mangor, un arall i David Hughes ym Mhorthaethwy, a dwy hyd yn oed i'r chweched mewn ysgolion yn Lloegr. Am chwalfa!
Rydan ni gyd wedi'n gwasgaru ar hyd a lled y wlad, yn teithio milltiroedd, ac mae'n cymunedau ni'n diodda o'r herwydd.
Mi benderfynais i fynd i'r chweched dosbarth yn Ysgol Dyffryn Nantlle, a dw i wrth fy modd yno. Gr锚t! 'Steddfod ysgol, ffair hydref, peintio 'stafell y chweched, trip i sglefrio, gemau hoci, a holl rhialtwch bywyd ysgol.
Peidiwch 芒 meddwl fy mod i'n erbyn colegau trydyddol. Mae'n si诺r eu bod yn iawn ar gyfer rhai sy'n byw mewn trefi, ond mewn ardal wledig fel Gwynedd, tydi o ddim y syniad gorau yn y byd, fel mae rhai o'r gwybodusion wedi cyfaddef, o'r diwedd. Y piti mawr ydi mod i r诺an yn ymroi i weithgareddau sy'n ymwneud 芒 Dyffryn Nantlle, yn hytrach na'r ardal lle gefais i'n magu.
Mae'r golled i gymunedau 'Stiniog, Tywyn, Botwnnog, porthmadog, ac Harlech yn anfesuradwy.
Felly, gallwch ddychmygu sut o'n i'n teimlo pan gododd y busnes yma yngl欧n 芒'r bygythiad i ddyfodol dosbarthiadau chwech mewn ysgolion. Tydw i'm yn dallt y stwnsh yngl欧n a chyllido, a gwerth y pen, a'r holl eiriau pwysig 'ma sydd yn cael eu taflu o gwmpas y lle. Yr hyn dw i yn ei wybod, fodd bynnag, ydi'r golled sydd yna i ysgol heb chweched; dw i'n gwbod be' 'di colli athrawon ar adeg 'dach chi'n dechrau eu gwerthfawrogi; dw i 'di profi'r chwalfa o golli ffrindiau yn 16 oed. Ond dwi hefyd wedi profi'r holl fanteision o gael bod mewn chweched dosbarth; gweld y gymuned yn elwa; y fantais i'r ysgol wrth inni fentora disgyblion iau, a'r fantais bersonol i mi o ysgwyddo cyfrifoldebau a dyletswyddau.
Ond wyddoch chi be? Does 'na neb wedi ymgynghori a mi a'm tebyg i weld be 'da ni'n feddwl yngl欧n 芒'r mater yma. Ni sy'n cael ein heffeithio gan y syniadau 'ma, a tydi o mond yn iawn ein bod ni'n cael deud ein deud. Peidiwn 芒 gadael iddyn nhw wneud penderfyniadau sydd yn effeithio ar ein dyfodol ni a'n brodyr a'n chwiorydd heb fynegi ein teimladau.
Efallai eich bod mewn coleg trydyddol ac yn hapus a bodlon ar y ddarpariaeth yno, ond apeliaf atoch i feddwl am y rhai a fyddai'n hoffi parhau mewn ysgol, ac yn poeni am eu dyfodol.
Cysylltwch 芒 Cymdeithas yr laith ac ychwanegwch eich enw at ddeiseb sydd yn gofyn am ddiogelu dyfodol dosbarthiadau chwech yn y gobaith y bydd rhywun yn gwrando ar lais yr union rai sy'n cael eu i heffeithio.