Rwy'n aelod o glwb ffermwyr ifanc Dyffryn Nantlle ers dros dair blynedd bellach. Tydw i ddim yn ffarmwr (chewch chi mohonof yn agos at unrhyw fuwch, heb s么n am darw), a thrwy'n ffrindiau y dois i wybod am y clwb. Mae'r clwb yn cyfarfod yn wythnosol, ac yn wir, wedi tyfu'n aruthrol yn ystod yr amser dw i 'di bod yn aelod. Ond, os oes un peth yn fy mhoeni am y ffermwyr ifanc, y ddelwedd 'ffarmwr' ydyw (e.e. tractor!). Does dim rhaid bod yn ffarmwr i fod yn aelod o'r clwb, dyma un peth sydd yn camarwain pobl. Oes rhaid newid yr enw? Dim yn fy marn i. Mae'r enw yn dweud mai clwb ydyw, dyna'r peth pwysicaf. Yn ogystal 芒 hyn, mae'n wir mai ffermwyr ydi llawer o'r aelodau, ac mae llawer o'r gweithgareddau yn cynnwys ffermio (barnu, cneifio, a.y.y.b.) Does dim gorfodaeth i gystadlu. Beth yw'r enwau eraill sydd ar gael, beth bynnag, heb iddynt fod yn rhy debyg i'r clwb ieuenctid lleol? Pam newid rhywbeth sy'n gweithio? Tydi'r deugain (a mwy) o aelodau sydd yn cyfarfod yn Nyffryn Nantlle ddim i weld yn poeni. Mae digon o gyfleon yn y clybiau i gael hwyl, ac i gystadlu mewn ardal, a thrwy Gymru. Mae eisteddfodau, siarad cyhoeddus, y rali, y Sioe Frenhinol, cwis, bowlio deg, ffug eisteddfod, a llawer mwy i edrych ymlaen amdanynt yn ystod y flwyddyn! Peidiwch 芒 barnu'r ffermwyr ifanc wrth eu henw, fel na ddylech farnu llyfr o'i glawr, neu berson wrth ei wyneb. Mae llawer o hwyl i'w gael. Beth sydd mewn enw beth bynnag?
|