"Ar hyn o bryd, mae'r gymdeithas hanes yn gwneud ein gorau i wella'r pentref gan ei fod wedi colli'r twristiaid - mae pobl isho haul y dyddiau yma. Rhaid gweld beth sydd ganddon ni i'w gynnig, ac fel lle i gerdded yw'r peth mwyaf amlwg, fel rhyw lidiart i Eryri. Mae yna gymaint o lefydd o bwys i ymweld 芒 nhw ac, ar hyn o bryd, rydym yn creu llwybr Huw Tom, sy'n mynd o Benmaenmawr i Rowen.
Ganwyd Huw Tom Edwards yn Rowen, er iddo fyw y rhan fwyaf o'i oes yn Mhenmaenmawr. Roedd yn ddyn o bwys mawr yn y 1850au a'r 1960au
Er na chafodd lawer o addysg, aeth i weithio yn chwareli Penmaenmawr a phyllau'r de cyn mynd ymlaen i godi'n uchel ym myd yr undebau. Daeth yn gadeirydd yn nyddiau cyntaf teledu annibynnol yng Nghymru (TWW), roedd ar Fwrdd Croeso Cymru a phob math o fyrddau eraill!
Roedd hefyd yn fardd ac yn ysgrifennwr. Ond fel bachgen 14 oed byddai'n cerdded dros y mynydd o Rowen i'r chwarel ym Mhen efo'i dad ac rydym am ddefnyddio'r ffordd yma fel ffordd tywys ar y mynyddoedd. Byddwn yn gosod cerrig i ddangos y ffordd a 'sgwennu tablau i helpu pobl i ddilyn y ffordd. Bydd yn gadael o ganol Pen, i fyny'r mynydd heibio Ty'n Ffridd, cartref ei nain a'i daid, croesi afon Gyrach, a draw i Rowen, lle ganwyd o a lle cafodd rywfaint o addysg.
Bydd yn llwybr hanesl ac yn llwybr llenyddol gobeithio hefyd gan ein bod yn gobeithio defnyddio rhywfaint o'i farddoniaeth ar hyd y ffordd.
Mae pawb yn s么n am Gladstone a Phenmaenmawr, ond mae yna Gymry lleol o bwys wedi byw yma hefyd, a rhaid i ni eu dathlu."
|