"Roeddwn i yn fecanic yn yr airforce ar 么l ymuno yn 1941.
Aethon ni allan efo'r nightfighter squadron. Roedd y Japaneaid wedi dechrau r锚dio Calcutta, gan y bydden nhw'n anfon popeth allan i'r rhyfel yn y dwyrain pell trwy ddociau'r ddinas.
Aeth hi'n operation yn syth wedi i ni gyrraedd. Saethodd un, Flight Sergeant Pring, dair awyren Japaneaidd i lawr y noson honno, a dwy y noson wedyn. Ddaru nhw ddim r锚dio Calcutta am amser hir ar 么l hynny.
Ond ddaru ni aros yno i ddelio efo'r raid dros Chittagong.
Erbyn Rhagfyr 1943, roedd na broblemau efo awyrennau ysb茂o dros Bagachi, tua 30 milltir o Calcutta. Er i ni dynnu'r gynnau a'r armour plating i ffwrdd o'r awyrennau, roedd yn dal yn amhosib iddyn nhw allu hedfan yn ddigon uchel i saethu'r awyrennau ysb茂o i lawr.
Roedd India yn gythraul o le i fyw - dim antibiotics na phensilin ac roedd y lle yn llawn o malaria. Roedden ni i gyd yn ringworm drostom hefyd.
Ges i fy mrathu gan neidr dd诺r wenwynig ond doeddwn i ddim yn bell o'r ysbyty yn Karachi felly ges i'r antid么t yn ddigon cyflym. Ond pan ddois i rownd, pwy oedd rownd y gwely ond tri doctor Cymraeg! Mae'n rhaid mod i wedi bod yn gweiddi yn Gymraeg pan roeddwn i allan ohoni a dyna lle roedd Dr Price, llawfeddyg o Lanrwst a brawd i foi oedd yn gweithio yn y banc yn y dre yn edrych arna i.
Roedd o'n dallt yn union pwy oeddwn i ac mi dd么th 芒 sigar茅ts a chacennau a phopeth i mi. Doeddwn i ddim wedi siarad Cymraeg am dair blynedd ond mae'n rhaid fy mod i wedi 'bablo' yn fy nghwsg.
Ges i ddwy flynedd efo'r sgwadron yn Calcutta cyn cael fy mhostio n么l i Karachi. Roedd y bwyd yn dal yn ddrwg, ond roedd hi'n llai llaith yna gan ein bod yn yr anialwch.
Mi ddaru ni gael miwtini yn Karachi oherwydd y bwyd ac am eu bod eisiau i ni wisgo best blues er ei bod hi'n boeth a hanner yr hogia wedi bod yn ymladd yn Bengal, a heb best blues i'w gwisgo. Felly mi ddaru HQ alw am ddiwrnod o wyliau i sortio pethau allan, ac mi wellodd pethau ychydig.
Ddaru ni gael miwtini arall ar 么l diwedd y rhyfel. Erbyn Ionawr 1946, roedden ni yn dal yng nghanol India yn gweithio ar injans awyrennau i American Airlines. Roedden ni felly yn teimlo fel 'sifis' - ddim yn gwneud dim gwaith i'r awyrlu bellach, ac eisiau dod adref. Felly ddaru ni benderfynu cael miwtini. Ddaru ni i gyd orfod mynd ar bar锚d a chael lot o fygythiadau ond, yn y diwedd, bu'n rhaid i HQ alw am ddiwrnod o wyliau eto i sortio pethau allan, gan y byddai tri miwtini yn golygu bod yr awyrlu wedi colli rheolaeth.
Cafodd rhai o arweinwyr y miwtini eu rhoi yn y clinc, ond er fy mod i yn un o'r cheerleaders, ches i ddim fy nal."