"Dwi'n cofio dau ryfel byd. Roeddwn yn fach iawn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Dwi'n cofio fod y siwgr yn ddu yr adeg honno - 'doeddwn i ddim yn ei licio fo, a dwi byth 'di cymryd siwgr ers hynny! Pan ddaeth yr Ail Ryfel Byd, dwi'n cofio'r seiren yn mynd yn Llanrwst am y tro cyntaf. Roeddwn i a fy ffrind yn siopa ar Denbigh Street a chafodd pawb eu gwthio i mewn i stafell o dan neuadd y dre. Ond ddaru fy ffrind a minnau benderfynu peidio aros gan nad oedd dim byd yn digwydd tu allan. Ond wrth gwrs doedd na ddim golau o gwbl ar y strydoedd - roedd yn rhaid i ni edrych i fyny ar y toeau i wybod lle roedden ni! Ond mi nes i allu adnabod to Garrington Terrace ac felly cyrhaeddais n么l yn Station Terrace yn iawn. Roedd fy ng诺r yn y fyddin ond roeddwn yn gwybod eu bod yn darllen llythyrau pawb. Felly mi ddywedais wrtho, pan fyddwn yn 'sgwennu ato am 'yr adar du yn yr ardd', mai dyma'r arwydd i ddweud ein bod wedi cael ein bomio. Roeddwn i'n gweithio yn stesion Llanrwst, yn y warws. Dwi'n cofio unwaith i mi drimio i fyny ar 么l cael ordors i gerdded o'r stesion i sgw芒r Llanrwst i n么l paced o bapurau oedd yn dod ar y bws o Ddolgarrog. Ond dwn i ddim beth oedden nhw - doedd fiw i neb ofyn amdanynt a ches i 'rioed wybod. Mi oedd na garcharorion rhyfel Almaenig yn cael eu cadw mewn plastai yn y ardal, fel Talarn yn Llanrwst, ond roedden nhw'r tu 么l i weiars a doedd neb yn cael mynd atynt. Roedd y dynion yn edrych yn iawn - ond prisoners oedden nhw yn de? Daeth efaciw卯s i'r dre hefyd. Dwi'n cofio eu gweld nhw'n dod o'r stesion efo'u pecynnau. Ges i ddwy hogan bach o Lerpwl yn dod i aros am chwe mis. Dwi wedi anghofio eu henwau, ond roeddent yn ddwy eneth bach annwyl. Mi ddaru nhw fynd o dan y dresar i gysgu. Pan ofynnais beth oedden nhw yn ei wneud, meddai un: 'We're going to sleep'. Daeth eu tad n么l o'r rhyfel ac roedd o eisiau mynd a'r plant adref felly n么l a nhw. Flynyddoedd wedyn, galwodd dynes smart heibio acw - un o'r genod bach oedd hi! Roedd yn neis iawn i'w gweld hi eto."
|