Cafodd y gwaith o wneud replica o'r tancard enwog o efydd, a elwir yn Gwpan Trawsfynydd, ei gomisiynu gan Ganolfan Treftadaeth Llys Ednowain yn Nhrawsfynydd ar gyfer ei arddangosfa yno. Cafwyd hyd i'r gwpan, sy'n dyddio o tua'r flwyddyn 100 C.C., mewn mawndir ger y pentref yng nghanol yr 19ed ganrif. Mae wedi ei gwneud o lafnau o goed ywen a'i gorchuddio ag efydd. Mae ganddi handlen efydd wedi ei gweithio'n batrwm Celtaidd cywrain yn yr arddull La T猫ne oedd yn amlwg yn Ewrop o tua 500 C.C. ymlaen. Yn 么l cyn rheolwr Llys Ednowain, Dewi Prysor, mae'r gwpan yn ddarganfyddiad pwysig am ei bod yn dangos y cysylltiadau diwylliannol a masnachol rhwng Celtiaid gogledd Cymru a gweddill Ewrop. "Sefydlwyd ysgolion crefftwyr metel yn yr arddull La T猫ne dros Brydain i gyd, yn enwedig Ynys M么n a de-ddwyrain Lloegr, ac roedd eu gwaith yn gynnyrch o'r safon uchaf. Ceir llawer o engreifftiau o'r celfyddyd hwn wedi eu gwneud yng Nghymru, ond yn ne-ddwyrain Lloegr, mae'n debyg, y gwnaethpwyd Cwpan Trawsfynydd," meddai. Yn 么l yr hanesydd lleol o Drawsfynydd, Isgoed Williams, rhoddwyd y gwpan i'r Twrna Llwyd, Penglannau, Gellilydan, i'w chadw, wedi ei darganfod rywbryd rhwng 1846 a 1856. Wedi iddo ef a'i wraig wahanu bu'n byw ym Mhenlan, Maentwrog, a gadawodd y cwpan i'w landledi, Phoebe Roberts, yn ei ewyllys. Gwerthodd Phoebe Roberts hi i berson 芒'i gwerthodd hi wedyn i'r Amgueddfa Genedlaethol yn Lerpwl, lle mae'r gwreiddiol yn dal i'w gweld.
|