"Hon yw'r unig felin wynt draddodiadol sydd yn gweithio yng Nghymru ac mae'n unigryw i ni. "Yr hyn rydym yn ceisio ei wneud yw dangos i blant ysgol sut mae hi'n gweithio a dangos iddyn nhw sut rydyn ni'n gwneud y bwyd ac yn malu'r grawn. "Rydym yn cynhyrchu'r blawd yn y felin ac mae becws lleol yn gwneud bara - sydd yn fara unigryw gyda blas traddodiadol. "Rydym yn ei gynhyrchu ar gyfer ein hunain i achlysuron fel lawnsiadau yn Oriel M么n, Llangefni, ac ar gyfer Sioe M么n a'r Steddfod. "Fe wnaethon ni dros fil o dorthau ar gyfer Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol. "Dydyn ni ddim yn gwerthu ein cynnyrd mewn siopau ar hyn o bryd, ond efallai y byddwn yn datblygu hynny yn nes ymlaen."
|