"Mae nifer wedi cwestiynu hanes y Celtiaid yn ddiweddar. Roedd rhai yn credu eu bod wedi cael eu herlid o F么n gan oresgynwyr eraill dros y canrifoedd. Ond rydw i'n meddwl mai'r un gr诺p o bobl oeddent, dim ond bod eu credoau a'u ffordd o fyw wedi newid yn raddol dros y canrifoedd. Dwi'n si诺r fod yr un bobl wastad wedi byw ar yr ynys, yn ffermio ac yn hela, gyda dylanwad mewnfudwyr a masnachwyr yn helpu i newid pethau yn ara' deg.
"Un o'r grwpiau hynny a laniodd ar yr ynys oedd y Llychlynwyr, er nad yw'n glir faint o ddylanwad gawsan nhw ar y bobl leol. Fe fu Mark Redknap o Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn arwain cloddiad yn Llanbedrgoch a dysgodd lawer am bresenoldeb y Llychlynwyr yn yr ardal - eu bod wedi ymosod a bod rhai wedi setlo. Ond mae'n anodd dweud am ba mor hir y gwnaethon nhw aros.
"Yn 么l yr hanes, credir i'r Llychlynwyr lanio ac ysbeilio ym Mhenmon, ond mae olion y traddodiad Norwyaidd ar y croesau ym Mhenmon felly mae'n rhaid bod y Llychlynwyr wedi cael rhywfaint o ddylanwad da.
"Yn 么l y gred, adeiladodd Olaf, hynafiad i Gruffydd ap Cynan gastell ar yr ynys ond nid oes neb yn sicr ym mhle.
"Ond y dylanwad mwyaf yw enw 'Saesneg' yr ynys, gan mai enw Llychlynaidd yw Anglesey. Tarddiad yr enw yw 'Ongl's ey' - Mae 'Ongl' yn enw Llychlynaidd ac 'ey' yn golygu ynys - felly ynys Ongl. Ond pwy oedd Ongl, a pham yr oedd mor bwysig iddo gael ynys mor fawr 芒 M么n wedi ei henwi ar ei 么l? Rwy'n deall ynysoedd bach fel y Skerries a Presholm (Ynys Seiriol) yn cael enwau Llychlynaidd ond mae rhoi eich enw i ynys fel M么n yn gamp. "
G诺yl Llychlynwyr Amlwch
|