成人论坛


Explore the 成人论坛
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwenlyn Parry

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人论坛 Homepage

Cymru'r Byd
Addysg
Y Twr
Y Dramodydd
Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Y Dramodydd

Gwr cadarn gwladgarol

Atgofion cyfaill: Gwilym Owen yn cofio cwmn茂wr, cymeriad a chyfaill

Cwmn茂wr, cymeriad, cyfaill. Dyna fel bydda i聮n cofio Gwenlyn. A thros flynyddoedd o adnabyddiaeth ohono fe welais i聮r tair agwedd yna ar eu gorau.

Fe dreuliais i oriau lawer yn seiadu efo fo a chriw o "eneidiau hoff cyt没n". Ac fe fu聮r gwmn茂aeth yma yn un o bleserau mawr bywyd. A Gwenlyn yn fwy aml na pheidio fyddai聮r brenin yn y cwmni.

Stor茂wr heb ei ail

Roedd ganddo ddawn dweud straeon na welais ei thebyg. Fe deimlais i fwy nag unwaith y gallai fod wedi bod yn gystal actor ag oedd o ddramodydd.

Sawl gwaith, clywais i o yn deud stori amdano yn cael ei holi am ddigwyddiad ar y maes chwarae yn Ysgol Dyffryn Ogwen pan oedd o聮n athro yno. Y Prifathro oedd yn gwneud yr holi a Gwenlyn yn cael trafferth i esbonio rhai arwyddion a wnaed gan rai o聮r plant efo聮u dwylo. Pethau fel codi dau fys a rowlio bys ar ochr penglog.

Roedd hi聮n glamp o stori ac y tynnu pawb i chwerthin. Hyd yn oed y rheiny fel fi oedd wedi ei chlywed lawer gwaith o聮r blaen.

Dawn dweud

A beth am y saga arall honno am ei brofiad yn cael y "cyfweliad blynyddol" enwog efo un o Reolwyr ecsentrig y 成人论坛 yng Nghymru?

Erbyn diwedd y cyfweliad hwnnw 聮doedd Gwenlyn ddim yn sicr pa un ai fo ei hun ai聮r dyn tu 么l i聮r ddesg oedd y 聭Controlar聮 go iawn.

Ac eto聮r st么r ddihysbydd yna o straeon gwreiddiol personol oedd yn ei wneud o聮n gystal cwmn茂wr - 芒聮r dawn i聮w dweud nhw wrth gwrs.

Nid rhyw lobstar gwirion

Roedd o聮n gymeriad hefyd.
Nid rhyw lobstar gwirion o gymeriad chwaith, ond dyn efo gwaelod iddo. Roedd ganddo safbwynt. Ac nid ar chwarae bach y gellid ei berswadio i blygu.

Fe welais i enghreifftiau o hynny ar amrywiol achlysuron gyda聮i Gymreictod a聮i genedlaetholdeb yn bethau oedd yn gwbl sanctaidd yn ei olwg. A gwae i unrhyw un ohonom ddweud gair i gyfeiriad arall.

Mi fyddwn i weithiau yn mynd ati聮n fwriadol i ddweud rhywbeth carlamus y gwyddwn na fyddai yn ei blesio. Fyddwn i ddim yn gallu parhau聮n hir i dynnu ei goes. Fe gawn wybod fy mod wedi deud digon ac mai gwell oedd tewi.

Pan ddiflannodd y Ddraig

Weithiau fe 芒i yntau yn rhy bell. Mewn gwyl ffilmiau Celtaidd yn Donegal yr oeddan ni pan ddiflannodd baner y Ddraig Goch dros nos a gadael baneri eraill.

Roedd Gwenlyn yn benwan, ac er bod rhesymau gwleidyddol cadarn dros y digwyddiad oherwydd trafferthion Gogledd Iwerddon, eto fe ddaliodd ati i greu dadl. Roedd Cymru fach wedi cael ei sarhau a rhaid oedd cywiro pethau. A wir ichi rwy聮n credu iddo gael ei faen i聮r wal. Oedd, roedd William Gwenlyn Parry yn gymeriad cadarn iawn iawn.

Triw a charedig

Ond fel cyfaill triw a charedig y bydda i yn ei gofio fwyaf. Nid cyfaill tywydd braf yn unig oedd o. Rwy聮n cofio unwaith bod yn ceisio am swydd efo fo. Roedd pedwar ohonom ar y rhestr fer. Rywsut, y fi gafodd y 聭job聮 a phwy oedd y cynta i i godi ac ysgwyd llaw - wel Parry wrth gwrs. "Pob lwc iti rhen foi," medda fo. "Os galla i dy helpu di ryw dro dim ond gofyn cofia!"

Un hawdd ei frifo

Ac fe fu yna benodau yn hanes llawer iawn o rai eraill dros y blynyddoedd pan fu Gwenlyn yn gyfaill gwerth ei gael mewn cyfyngder.

Un felna oedd o 聳 ac er bod ganddo ddiddordeb ysol ymhob stori a chlec oedd yn ffurfafen Cymru 聳 eto i gyd, chlywais i 聭rioed mohono yn lledu gwybodaeth faleisus am neb.

A deud y gwir, chlywais i fawr o neb yn deud dim cas amdano yntau, A diolch am hynny, oherwydd roedd yna agwedd arall i Gwenlyn Parry 聳 roedd o聮n greadur hawdd iawn ei frifo.

Ac yn ystod y seiadau a gefais i efo fo yn ystod ei fisoedd olaf fe soniodd am rai o聮r penodau a adawodd greithiau ar ei enaid clwyfus.

Ond fe gadwa i聮r rheiny yng nghelloedd y cof a聮i gofio fel cwmn茂wr, cymeriad, cyfaill 聳 a dramodydd wrth gwrs!

Atgofion eraill:

Eich atgofion chi:

cofion y cyhoedd

成人论坛
漏 MMI

Y Twr

Y Dramodydd
Ei Fywyd
Ei Ddram芒u
Atgofion Cyfeillion
Y Cyhoedd yn Cofio
Llais Ll锚n

Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Rhaglenni 'Wythnos Gwenlyn Parry'



About the 成人论坛 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy