成人论坛


Explore the 成人论坛
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwenlyn Parry

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人论坛 Homepage

Cymru'r Byd
Addysg
Y Twr
Y Dramodydd
Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Y Dramodydd

Stretsio聮r lastig

Atgofion actores: Maureen Rhys

聭Un arall o ddram芒u od Gwenlyn Parry!聮

Roeddwn i聮n llafnas ifanc yng nghanol cwmni dethol yn gwrando ar y dyn penddu yma yn dweud straeon a dyma Elfyn Thomas yn troi ata i a deud,

"Ti聮n gwbod pwy di聮r dyn yma, twyt? Brawd Margaret Parry oedd yn Form Six pan oeddat ti yn Form One."

Do, fe aeth Margaret, Gwenlyn a minnau i聮r un ysgol - dim ond fod Gwenlyn un mlynedd ar ddeg yn hynach na mi.

Yr hyn a聮m trawodd i amdano y noson honno oedd y carisma - nid yn gonfensiynol olygus ond rhywbeth llawer mwy gwerthfawr. Dyn yn hawlio sylw, yn medru dweud ei ddweud mor ddifyr.

Cynnig Y Twr dros swpar

Fe fu i聮n llwybrau groesi ambell i waith yn ystod y pymtheng mlynedd oedd i ddilyn. Eisteddfod Wrecsam oedd hi, ar ganol sgwrs, dyma Gwenlyn yn gofyn yn reit ddi-daro, "Dowch am swpar efo fi."

Felly y bu. John a minnau yn swpera efo Gwenlyn, a finnau am unwaith yn gwrando yn lle siarad!

Yn sydyn dyma fo聮n troi ata i a gofyn, "Sut fasa ti聮n licio bod yn ifanc, canol oed a hen?"
Doeddwn i ar y pryd naill ai聮n ifanc, yn ganol oed nac yn hen.
"Be? Go iawn ti聮n feddwl?" medda fi.
"Naci siwr, mewn drama, hogan."
"Wrth fy modd," medda fi. "Dyna be fydda sialens."
"Iawn ta," medda Gwenlyn. "Steddfod Caerdydd flwyddyn nesa amdani."
Hynny ydi, 1978.

Be fedrwn i neud wedyn ond codi o聮m sedd a rhoi clamp o sws ar i foch o!

Yr anrheg yn cyrraedd

Ymhen rhyw ddeng mis mi ddaeth yr anrheg - a dyna beth oedd Y Twr.

Teitl da, fel pob un o deitlau dram芒u Gwenlyn.

Yn 么l ei gyfaddefiad ei hun yr oedd yn cymryd bron i flwyddyn i sgrifennu drama.

Drama sy聮n gerdd

Oherwydd fy mod i yng Nghaerdydd ar y pryd a John ym Mangor yr oeddem ni wedi darllen y ddrama ar wah芒n ond yn unfryd unfarn fod hon yn mynd i fod yn sialens ac yn bleser.

Cerdd ydi hi a rhythmau pendant i聮r dweud - yn cynnwys y rhegfeydd! Ac mae rhywun mwy cymwys na mi wedi dweud hynny mewn print, yn Rhagair Saunders Lewis i'r ddrama.

Noson gyntaf Y Twr

Anghofia i byth y noson gyntaf yn Theatr Newydd Caerdydd. Y lle聮n orlawn. Dros fil o bobol yn disgwyl am ddrama newydd gan brif ddramodydd.

Bu聮r mis o ymarfer dan law gadarn y cyfarwyddwr, David Lyn, yn bleser pur a dyma ni rwan yn barod i droedio聮r llwyfan.

Yn yr ystafell wisgo yr oeddwn i聮n crynu fel deilan a nannedd i聮n clecian!
Ofn anghofio.
Ofn i bobol gerddad allan.
Ofn diflasu聮r gynulleidfa.
Dim ond dau actor yn siarad. A dyma fi聮n dewis un o聮r ofnau i ddweud wrth Gwenlyn amdano, ofn anghofio.

"Paid 芒 phoeni," medda fo. "Mi fyddai yn y gynulleidfa a mi godai ar fy nhraed a gweiddi聮r llinall ac mi fydd pawb yn meddwl mai un o ddram芒u od Gwenlyn Parry ydi hon eto!"

Dyma fo聮n agor ei freichiau a聮u cau amdanai a finna聮n chwerthin.

Gw锚n a dagrau mewn brawddeg

Anghofiai byth, byth, y noson honno.
Y distawrwydd llethol, y chwerthin a聮r crio.
Y cwbwl i gyd mewn ychydig dros ddwyawr. Y teimlad o bwer, dim llai, o allu gwneud i bobl chwerthin a chrio o fewn yr un frawddeg bron. Dyma i mi un o ragoriaethau Gwenlyn.

A defnyddio dywediad o聮n hardal ni, "gwybod faint i stretsio聮r lastig".

Dim ond ar lwyfan y gall rhywun gael profiad fel聮na.

Dros fil o bobol, fel un pryfyn ar wal, yn sbecian ar fywyd preifat dau berson. Y cicio, y brathu, y crio a聮r caru.

Deunaw mlynedd yn ddiweddarach perfformio聮r un ddrama eto, dan law Graham Laker. Y tro yma heb egwyl na cholur.

Am brofiad! Am ddrama! Diolch fyth i Gwenlyn.

Atgofion eraill:

Eich atgofion chi:

cofion y cyhoedd

成人论坛
漏 MMI

Y Twr

Y Dramodydd
Ei Fywyd
Ei Ddram芒u
Atgofion Cyfeillion
Y Cyhoedd yn Cofio
Llais Ll锚n

Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Rhaglenni 'Wythnos Gwenlyn Parry'



About the 成人论坛 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy