Economi Cymru ganol y ddeunawfed ganrif
Yn 1750 roedd y rhan helaethaf o drigolion Cymru yn dibynnu ar amaethyddiaeth am eu cynhaliaeth, ond roedd twf yr ardaloedd diwydiannol ar gynnydd. Ar ddechrau'r ganrif daeth bywyd newydd i'r diwydiannau a sefydlwyd yn ystod teyrnasiad Elizabeth I. Gwelwyd cynnydd mawr yng ngweithfeydd haearn Pont-y-p诺l a'r Bers, mwyngloddiau plwm ac arian Sir y Fflint a Sir Aberteifi, gweithfeydd copr Castell-nedd ac Abertawe, a'r pyllau glo yng ngorllewin Morgannwg a Sir y Fflint.
Er y cynnydd diwydiannol, amaethyddiaeth oedd sylfaen yr economi o hyd. Roedd amaethyddiaeth yn datblygu hefyd wrth i ffermwyr ddechrau cylchdroi cnydau, defnyddio calch, cau tir comin, a datblygu dulliau diwydiannol cynnar o gynhyrchu yn enwedig yn y diwydiant gwl芒n.
Datblygiad diwydiannol yn cyflymu
Dechreuodd y diwydiannu go iawn yn ail hanner y ddeunawfed ganrif. Ni ddylid rhoi dyddiad rhy gynnar i'r datblygiad, oherwydd, cyn hwyred 芒 1811, pobl a dibynnai ar y tir am eu cynhaliaeth oedd mwyafrif trigolion 79 o'r 88 hwndred yng Nghymru. Fodd bynnag, erbyn 1851, roedd dwy ran o dair o deuluoedd Cymru yn cael eu cynhaliaeth o waith ar wah芒n i amaethyddiaeth, sy'n golygu bod Cymru yn ail ond i Loegr fel gwlad ddiwydiannol gynharaf y byd.
Ffynnodd y diwydiannau trymion o ganlyniad i ryfeloedd - y Rhyfel Saith Mlynedd (1756-63), Rhyfel Annibyniaeth America (1775-83), Rhyfeloedd y Chwyldro Ffrengig a Rhyfeloedd Napoleon (1793-1802, 1803-15).
Yn y gogledd ddwyrain y ceid yr amrywiaeth mwyaf o ddiwydiannau. Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif roedd 19 o weithfeydd haearn yn Nhreffynnon ac 14 o grochendai ym Mwcle; roedd melinau cotwm yn Nhreffynnon a'r Wyddgrug, llu o weithfeydd plwm a glo, ac roedd un o brif weithfeydd haearn Ewrop yn y Bers, lle bu teulu Wilkinson yn arloesi mewn defnyddio golosg yn hytrach na siarcol i smeltio haearn.
Ond maes o law, yn y de ddwyrain y gwelwyd y datblygiadau pwysicaf. Twf gweithfeydd haearn Merthyr Tudful - Cyfarthfa a Dowlais yn fwyaf arbennig - a roes i Gymru ei thref ddiwydiannol gyntaf. Erbyn 1830 roedd Sir Fynwy a dwyrain Morgannwg yn cynhyrchu hanner yr haearn a allforid o Brydain.
Roedd datblygiadau economaidd o bwys hefyd yn ardaloedd Abertawe, Castell-nedd a Llanelli. Yn Amlwch, cr毛wyd y mwynglawdd copr fwyaf yn y byd, ac yn Eryri dechreuodd y chwareli llechi ddisodli'r cloddio am gopr. Yn y canolbarth, newidiodd natur y diwydiant gwl芒n wrth i ddulliau cynhyrchu traddodiadol ildio i gynnyrch mewn ffatr茂oedd.