Beth ddigwyddodd ar 么l cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig?
Ym Mhrydain, goroeswyd cwymp yr Ymerodraeth gan elfennau o'r gwaddol Rhufeinig. Ceisiodd Brythoniaid Rhufeinig y dinasoedd gynnal y strwythurau gwleidyddol a etifeddwyd oddi wrth y drefn ymerodraethol. Cafodd eu hymdrechion rywfaint o lwyddiant. Rhwng 420 a 450, credir mai Gwrtheyrn (Vortigen) a reolai'r rhan fwyaf o'r cyn dalaith Rufeinig. Efallai iddo fabwysiadu arfer y Rhufeiniaid o ddefnyddio un ymosodwr yn erbyn un arall. Ef, o bosibl, a drefnodd i rai o aelodau llwyth y Gododdin (y Votodani - pobl Frythoneg eu hiaith a drigai ar lannau Afon Gweryd) i ymsefydlu yng ngogledd-orllewin Cymru i wrthsefyll ymosodiadau'r Gwyddelod. Honnir iddo hefyd ganiat谩u i'r Sacsoniaid ymgartrefu yn nwyrain Prydain fel gwobr am eu cymorth yn erbyn y Pictiaid. Y mae'n bosibl bod llawer o Sacsoniaid yn byw ym Mhrydain cyn cwymp yr Ymerodraeth. Erbyn tua 490 roeddynt wrthi'n creu teyrnasoedd yng Nghaint, Sussex, Wessex ac East Anglia.
Arthur a'r gwrthsafiad Prydeinig
Yn 么l traddodiad, arwr mawr y frwydr rhwng y Brythoniaid a'r Sacsoniaid oedd Arthur. Mae'n bosib ei fod yn llinach y traddodiad Rhufeinig, oherwydd roedd gan y Rhufeiniaid swyddog - y Dux Britanniarum (Dug Prydain) - arweinydd llu symudol a chanddo'r gwaith o amddiffyn talaith Britannia. Y mae'r ffaith bod mannau niferus ar draws Prydain yn coff谩u Arthur yn awgrymu y bu ganddo swydd o'r fath. Enillodd ei frwydr fwyaf tua 496 ym Mons Badonicus, a leolwyd, efallai yn Sussex, neu ger Caerfaddon. O ganlyniad i'w fuddugoliaeth, dichon i ymdaith y Sacsoniaid gael ei hatal am o leiaf hanner can mlynedd.
Teyrnasoedd y Saeson
Erbyn 550, roedd ymgyrchoedd y Sacsoniaid ar droed eto. Ganrif yn ddiweddarach, roedd y rhan fwyaf o'r hyn a fyddai'n Lloegr o dan eu rheolaeth hwy. Bu adeg pan dybiai haneswyr bod hynny'n golygu bod Brythoniaid neu Gymry Lloegr un ai wedi'u lladd neu wedi cael eu gyrru tua'r gorllewin. Nid dyna'r gred bellach. Diau i drwch y trigolion Brythonaidd aros ble roeddynt, a mabwysiadu iaith ac arferion y goresgynwyr. Mae enwau lleoedd Lloegr yn dystiolaeth o hynny. Enwau Brythonaidd sydd gan drwch afonydd Lloegr - Thames a Trent, er enghraifft - ac, wrth gwrs, fersiwn o'r gair afon yw'r aml i Avon sydd yn Lloegr. Erbyn 700, bodolai nifer o deyrnasoedd Seisnig; y cryfaf ohonynt oedd Northumbria, Caint, Wessex a Mercia.
Teyrnasoedd y Cymry
Roedd gwreiddiau teyrnasoedd cynnar y Cymry yn h欧n na gwreiddiau teyrnasoedd y Saeson. Gwent, mae'n debyg, oedd y cynharaf ohonynt, teyrnas a oedd yn ganlyniad ail-adfer grym gan ddosbarth llywodraethol y Silures. Roedd brenhinoedd Gwynedd yn olrhain eu cyndeidiau yn 么l i Gunedda, arweinydd tybiedig y Gododdin. Yn y de orllewin, daeth Dyfed, bro'r Demetae, o dan reolaeth Wyddelig. Felly hefyd teyrnas Brycheiniog. Dichon mai o'r gair Lladin pagus (y cefn gwlad) y tarddodd enw Powys, a chredir ei bod wedi datblygu o ran o diriogaeth llwyth y Cornovii.