Parhad i Hanes Cwm Tawe
topParhad i Hanes Cwm Tawe yn cynnwys dirgelion Dan yr Ogof, dylanwad y bardd Gwenallt a chwedloniaeth yr ardal.
Pontardawe i Pennsylvania
Y g诺r a ddarganfyddodd sut i ddefnyddio glo i doddi haearn oedd David Thomas. Cafodd ei eni ar fferm rhwng Pontardawe a Chastell Nedd. Bu'n gweithio yng ngweithfeydd Ynyscedwyn am 22 mlynedd. Yma bu'n arbrofi gyda dulliau o doddi haearn gyda glo.
Ni chafodd lawer o lwyddiant i ddechrau. Ond newidiodd pethau wedi ymweliad James Beaumont Mielson, peiriannydd o'r Alban. Roedd ef wedi gosod system a ddefnyddiai olosg i greu haearn.
Yn 1836 trowyd un ffwrnais yn Ynyscedwyn yn system oedd yn defnyddio glo carreg. Canlyniad hyn oedd i David Thomas gynhyrchu'r haearn cyntaf yn y byd i gael ei greu gyda glo carreg.
Aeth y newyddion fel t芒n gwyllt i bob cwr o'r byd gan gyrraedd clustiau diwydianwyr ym Mhennsylvania. Cynigodd y rhain gyfle i David Thomas i ddatblygu'r gweithfeydd haearn ym Mhennsylvania.
Derbyniodd David Thomas y cynnig ac yn 1839 fe ymfudodd ef a'i deulu yno. Ffurfiodd David Thomas y ffwrnais gyntaf yn America i ddefnyddio glo carreg, a hynny ym Mhottsville yn 1840. Credwyd mai ef sydd i ddiolch am ddatblygiad y diwygiad diwydiannol yn yr U.D.
Bu'r g诺r hwn yn hynod o lwyddiannus a sefydlodd ei gwmni ei hun sef Thomas Iron Company yn Hoqenauqua. Ymhen dim y cwmni hwn oedd prif gynhyrchydd haearn yr UDA ac erbyn 1856 roedd hanner yr haearn a gynhyrchid yn yr UDA yn cael eu llunio drwy ddefnyddio dulliau David Thomas.
Yn Ebrill 2011 darganfuodd Archaeolegwyr olion sylweddol o Weithfeydd Dur Ystalyfera tra'n paratoi'r safle ar gyfer archfarchnad. Dyma'r tro cyntaf iddynt gael eu gweld ers canrif. A chredir mai dyma'r gweithfeydd dur mwyaf yn y byd am y cyfnod.
T欧 Ynyscedwyn
Cartref perchennog y gwaith haearn yn Ystradgynlais oedd T欧 Ynyscedwyn. Bu'r t欧 mawr hwn am ganrifoedd yn rhan o st芒d bwysig a fu'n ddylanwadol a phwysig yn natblygiad rhan uchaf Cwm Tawe.
Mae tipyn o ansicrwydd yngl欧n 芒 hanes cynnar yr adeilad ond credir ei fod unwaith wedi bod yn gartref i Gruffydd G诺yr a gymrodd ran yng ngwrthryfel 1287 yn erbyn Edward I. Am gyfnod wedyn bu'r t欧 yn nwylo teulu dylanwadol Aubrey. Priododd Catherine Aubrey, etifedd y teulu hwnnw 芒 William Gough. Arhosodd y t欧 yn nwylo teulu'r Gough wedyn.
Gwelodd Richard Gough Aubrey y cyfle i fuddsoddi yn y newidiadau diwydiannol mawr oedd ar droed yng Nghwm Tawe. Yn niwedd y 18fed ganrif roedd yn un o'r rhai oedd yn gyfrifol am ddatblygu camlas Abertawe ac agorodd bwll glo yn Nghwmtwrch Isaf.
Wedi marwolaeth yr olaf o'r teulu defnyddiwyd y t欧 i roi llety i w欧r busnes a ddaethai i'r ardal wedyn cafodd ei droi'n swyddfeydd i'r cyngor. Ond dymchwelwyd yr adeilad yn 1997.
Eglwys hynafol Ystradgynlais
Ond nid y cyfnod diwydiannol yw'r unig gyfnod sy'n bwysig yn yr ardal. Credir fod eglwys plwyf Ystradgynlais sef Eglwys Sant Cynog yn dyddio o'r 6ed ganrif. Nid yr eglwys wreiddiol sydd ar y safle bellach gan iddi gael ei hailadeiladu yn 1865.
Mae'n debyg fod yr eglwys wreiddiol wedi ei sefydlu gan Cynog, mab Brychan y brenin Gwyddelig a roddodd ei enw i Frycheiniog. Mae hen gerrig o'r cyfnod Cristnogol cynnar wedi eu hymgorffori yn yr adeilad sydd i'w weld yma heddiw.
Ond mae tystiolaeth yn dangos fod pobol wedi trigo yn yr ardal cyn hynny hyd yn oed. Mae'n debyg fod pobol wedi bod yn byw yma ers tua 7000-5000 CC. Prawf o hyn yw'r cerrig mawrion fel Maen Llia a Maen Madog a'r esgyrn sydd wedi eu darganfod yn yr ardal. Yn ogystal mae'r cylch fawr o gerrig sef Cerrig Duon gyda'r garreg fawr Maen Mawr a saif ger afon Tawe. Gerllaw'r cerrig hyn mae casgliad o gerrig eraill sef y Saith Maen a saif yn Cribarth.
Ogofau Dan yr Ogof
Ym mhendraw'r cwm ger Abercr芒f mae Ogof芒u Dan yr Ogof. Dim ond yn ystod yr ugeinfed ganrif y darganfuwyd rhyfeddod yr ogof hon.
Ar hyd y canrifoedd roedd trigolion yr ardal yn ymwybodol bod ogof ar dir fferm Dan-yr-Ogof a bod yr afon Llynfell yn llifo ohoni. Ond doedd neb wedi bod yn ddigon dewr i'w harchwilio'n fanwl.
Yna yn 1912 penderfynodd dau 诺r y bydden nhw'n mentro ac fe ddefnyddiodd y ddau ganhwyllau i chwilio'r ogof. Darganfyddodd y ddau fod yma nifer anhygoel o bibonwy ond roedd llyn yn eu rhwystro rhag teithio ymhellach i grombil y mynydd.
Aeth y ddau i'r ogof eilwaith, y tro hwn gyda choryglau. Galluogodd hyn iddyn nhw groesi pedwar llyn a darganfod siambrau cudd. Ond eto roedd pethau'n eu rhwystro rhag crwydro ymhellach.
Yn y 1930gau darganfuwyd 42 o ysgerbydau o'r Oes Efydd yn yr Ogofau. Ail-gladdwyd un o'r ysgerbydau o dan Cylch o Gromlechi a greuwyd i nodi'r mileniwm yn y flwyddyn 2000.
Yn ystod y 1960au mentrodd merch leol oedd yn aelod o glwb ogofau De Cymru i mewn i'r ogof ryfeddol. Fe ddarganfyddodd hithau fod yr ogof yn ymestyn dros 10 milltir. Roedd hyn yn ddarganfyddiad pwysig ond mae arbenigwyr yn dadlau fod llawer mwy i'w ddarganfod.
Chwedlau Cwmtawe
Mae nifer o chwedlau sy'n cael eu cysylltu 芒 Chwm Tawe. Un chwedl ddiddorol a gysylltir gydag Ystradgynlais yw chwedl John Gethin.
Yn 么l y chwedl honno roedd dewin yn byw yn Ystradgynlais ar un adeg ac roedd ganddo law haearn. Drwy ddefnyddio ei hud darganfyddodd fod trysor wedi ei guddio o dan Fynydd y Drum. Credai y gallai feddiannu'r trysor hwn pe bai'n gallu darganfod g诺r dewr arall a fyddai'n fodlon treulio noson gydag ef ar y mynydd.
Chwiliodd yn ddyfal am gydymaith ond yn ofer. Roedd gormod o ofn ar ei gyfeillion. Yn y diwedd cytunodd bachgen ifanc o'r enw John Gethin ei helpu. Doedd ef yn poeni am ddim.
Un noson aeth y ddau at y mynydd. Dywedodd y dewin wrth y bachgen am sefyll mewn cylch arbennig tra roedd ef yn galw ar yr ysbryd oedd yn gwarchod y trysor. Gwnaeth John Gethin hynny. Yn sydyn ymddangosodd tarw mawr, ond arhosodd y bachgen yn y cylch. Yn eu tro wedyn ymddangosodd gafr enfawr, arth a llew, ond aros wnaeth y bachgen. Ond pan ymddangosodd cylch o d芒n fe ddychrynodd a chamodd o'r cylch.
Dywedodd y dewin wrtho wedyn bod ei fywyd mewn perygl am ei fod wedi anufuddhau a rhoddodd gannwyll iddo er mwyn ei warchod rhag yr ysbrydion drwg. Dywedodd wrth y bachgen am gadw'r gannwyll yn ofalus mewn llecyn oer.
Gwnaeth John Gethin hynny ond bob dydd roedd y gannwyll yn diflannu'n raddol. Roedd John yntau'n gwanhau bob dydd a phan ddiflannodd y gannwyll fe fu John farw. Dywedir fod ysbryd John Gethin yn dal i grwydro Mynydd y Drum yn ystod y nos a'i fod yn dal i chwilio am y trysor a'i enaid ei hun.
Chwedl fwy cyfarwydd na stori John Gethin yw chwedl Culhwch ac Olwen. Dyma un o chwedlau'r Mabinogi a gysylltir ag ardal Cwmtwrch. Er mwyn priodi Olwen roedd yn rhaid i Gulhwch gyflawni sawl tasg ac un o'r rheiny oedd cymryd crib, siswrn a raser o ben y Twrch Trwyth sef creadur enfawr oedd yn debyg i arth.
Roedd yn rhaid iddo ddefnyddio'r rhain wedyn i dorri gwallt Ysbyddaden Bencawr. Dywedir fod y cawr hwn wedi rhoi'r enw i fferm Ysbydadde ger Abercr芒f. Cafodd Culhwch gymorth gan y Brenin Arthur a'i w欧r ac fe aethant hwy ati i hela'r twrch yn yr ardal hon a dyna sut y derbyniodd pentref Cwmtwrch ei enw.
Bro Gwenallt
Mae i'r ardal le pwysig mewn llenyddiaeth Gymraeg am reswm arall hefyd a hynny gan mai dyma ardal Gwenallt, bardd ac ysgolhaig. Ganed Gwenallt (David James Jones) ym Mhontardawe yn 1899. Symudodd y teulu'n fuan wedyn i bentref Yr Allt-Wen yng Nghwm Tawe.
Yn y cyfnod hwn cymdeithas Gymraeg ddiwylliannol ac Ymneilltuol oedd yn y cwm wedi ei chanoli o gwmpas y gwaith dur ac alcam. Ond roedd bywyd yn galed a lladdwyd tad Gwenallt gan fetel tawdd mewn damwain yn y gwaith.
Pan oedd yn 诺r ifanc dechreuodd Gwenallt wrthryfela'n erbyn creulondeb y gyfundrefn ddiwydiannol a chrefydd llugoer a symudodd tuag at Sosialaeth Gristnogol ac wedyn at Farcsiaeth anffyddiol. Ond yn ddiweddarach datblygodd safbwynt crefyddol o fewn yr eglwys Fethodistaidd Galfinaidd a oedd yn draddodiadol a radicalaidd.
Bu Gwenallt yn wrthwynebydd cydwybodol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac fe'i carcharwyd yn Wormood Scrubs a Dartmoor. Mynegodd brofiadau'r cyfnod hwn yn ei nofel 'Plasau'r Brenin'.
Wedi'r rhyfel bu'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth lle graddiodd yn y Gymraeg a'r Saesneg. Wedyn bu'n athro yn Y Bari cyn cael ei benodi yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth.
Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1926 gyda'i awdl Y Mynach ac eto yn 1931. Ond daeth i amlygrwydd fel bardd yn bennaf o ganlyniad i'w gerddi eraill. Cyhoeddodd bum cyfrol o gerddi ac ynddyn nhw llwyddodd i fynegi'r profiad o fyw mewn cymdeithas ddiwydiannol.
Hefyd cyhoeddodd gyfrol o ysgrifau hunangofiannol sef 'Credaf' a dwy nofel 'Plasau'r Brenin' a 'Ffwrneisiau'. Yn ogystal gwnaeth gyfraniad pwysig i feirniadaeth lenyddol ac ef oedd golygydd cyntaf 'Taliesin'. Mae yna blac yn dynodi man geni Gwenallt yn Wesley Terrace, Pontardawe. Abertawe.
Adelina Patti a Chraig y Nos
Bydd Adelina Patti, Soprano mwyaf enwog ei dydd, bob amser yn gysylltiedig 芒'i chartref, Castell Craig y Nos, yng Nghwm Tawe Uwch. Hi wnaeth roi'r enw rhamantaidd, 'Craig y Nos' i'r castell.
Cafodd Adelina ei geni ym Madrid i deulu Eidalaidd yn 1843 a magwyd hi yn Efrog Newydd. Canodd am y tro cyntaf yn Convent Garden yn 1861. A dyma ddechrau ar ei henwogrwydd. Fel Soprano bel canto coloratura, hi oedd cantores yr oes. Credai Giuseppe Verdi mai hi oedd y gantores orau wnaeth e glywed erioed. Roedd y cynulleidfaoedd yn dotio arni ac roedd hi'n ennill arian mawr.
Ar ddiwedd ei phriodas gyntaf, symudodd Adelina a'i chariad, y Tenor, Ernest Nicolini i Graig y Nos, oedd yn cynnig preifatrwydd a llonyddwch wrth lannau'r afon Tawe ger Penwyllt. Treuliodd Adelina'r ddeugain mlynedd nesa yn gwario ar yr adeilad (拢100,000 bryd hynny ond miliynau yn arian heddiw), gan ei drawsffurfio'n greadigaeth Gothig. Ychwanegodd y t诺r, dwy adain fawr, t欧 gwydr yn llawn adar gwyllt a theatr 150 sedd!
Bu Adelina Patti yn weithgar iawn yn y gymuned, yn perfformio mewn cyngerddau ar gyfer elusennau lleol ac roedd yn hoff iawn gan drigolion lleol. Yng Nghraig-y-Nos recordiwyd ei llais yn canu am y tro cyntaf. Pan glywodd ei hun yn canu, sylweddolodd pam y bu mor llwyddiannus (nid dynes diymhongar mo Adelina!).
Bu farw Adelina Patti yng Nghraig-y-Nos ar y 27 o Fedi 1919. Symudwyd y ty gwydr enwog i Abertawe a'i ail-enwi'n 'Patti Pavilion'. Ond mae Craig-y-Nos yn dal i sefyll ac mae addurniadau coeth Theatr ysblennydd Adelina yn dal i ddenu ymwelwyr. Yn 2011 rhoddwyd yr adeilad ar y farchnad am 拢1.5 miliwn.