23 Mawrth 2009
Dechreuadau radicaliaeth wleidyddol
Y mae digon o dystiolaeth bod yng Nghymru yng nghanol y ddeunawfed ganrif ddiddordeb eang mewn carfanau gwleidyddol ond fawr o ddiddordeb mewn egwyddorion gwleidyddol. Bu rhywfaint o gynnwrf yn ystod Rhyfel Annibyniaeth America, ac eto o ganlyniad i'r Chwyldro Ffrengig.
Yn y 1790au lleiafrif bychan oedd yn credu mewn syniadau radical, a llawer o'r rheini yn dod o rengoedd rhyddfrydol yr Anghydffurfwyr. Cafodd ymdrechion y radicaliaid eu tanseilio gan lywodraeth orthrymus a ffataliaeth grefyddol, ond gwelwyd y galw am ddiwygio'n codi ei ben eto mewn papurau megis y Cambrian (a sefydlwyd yn Abertawe yn 1804) a rhai cyfnodolion Cymraeg, cyhoeddiadau a ddechreuodd ddod i'r amlwg yn y 1820au.
Hawliau'r Anghydffurfwyr oedd un o brif bynciau'r cylchgronau hyn, pwnc oedd o anghenraid yn herio tueddiadau gwleidyddol y dydd. Tua'r adeg hon hefyd daeth y diwydianwyr, a oedd yn ymwybodol o'u cyfraniad i'r economi, yn gynyddol barod i herio grym y tirfeddianwyr.
Wedi cryn gynnen cafwyd y Mesur Diwygio yn 1832; mesur bychan a roddai bleidlais i fwy o oedolion gwrywaidd, tua 8% yn lle 5% o'r boblogaeth. Ond roedd y ddeddf yn fwy arwyddocaol am ei fod yn dangos parodrwydd y dosbarth llywodraethol i ddiwygio'i hunan, cam a sicrhaodd fod Prydain yn troedio llwybr at ddemocratiaeth heb chwyldro, er iddo fod yn llwybr hir a chythryblus. Rhoddodd y ddeddf bum aelod seneddol ychwanegol i Gymru. Diwygiodd hefyd yr etholfraint yn y bwrdeistrefi a rhoddodd y bleidlais i wrywod yn y siroedd a dalai rent blynyddol o 拢50 neu fwy.
Diwygiadau diweddarach
Yn 1867 pasiodd y Ceidwadwyr o dan Disraeli ail fesur diwygio a roddai bleidlais i bob trethdalwr gwrywaidd yn yr etholaethau bwrdeistrefol. Yn 1871, yn rhannol am fod tenantiaid Cymru a bleidleisiai i'r Rhyddfrydwyr wedi cael eu herlid gan eu tirfeddianwyr Ceidwadol, sefydlwyd trefn y bleidlais gudd, neu'r tugel. Yn 1884, sicrhaodd y Rhyddfrydwyr fesur arall oedd yn rhoi'r un hawliau i'r pleidleiswyr sirol 芒'r hawliau oedd gan y pleidleiswyr bwrdeistrefol.
Y flwyddyn ganlynol o dan y Ddeddf Ailddosbarthiad, cafodd ardaloedd trefol a diwydiannol Cymru rhagor o seddau yn y Senedd a hynny ar draul y siroedd gwledig a'r trefi marchnad bychain. O ganlyniad roedd gan Gymru 34 o aelodau seneddol: 12 yn y gogledd, 14 ym Morgannwg a Sir Fynwy ac wyth yng ngweddill y de.
Yn 1918 rhoddwyd hawl i bob dyn dros 21 oed fwrw pleidlais, ac eithrio gwrthwynebwyr cydwybodol. Rhoddwyd hawl i fenywod dros 30 bleidleisio hefyd. Yn 1928 cafodd pob menyw'r un hawliau pleidleisio 芒 dynion. Yn 1948 diddymwyd yr hawl i gael mwy nag un bleidlais - drwy fod yn berchen ar fusnes neu fod 芒 gradd prifysgol. Etholiad cyffredinol 1950 felly oedd yr etholiad gwir ddemocrataidd cyntaf yn hanes Prydain. Cafodd llywodraeth leol hefyd ei democrateiddio, yn bennaf o ganlyniad i Ddeddf Cynghorau Sir 1888 a ffurfiwyd cynghorau dosbarth a phlwyf etholedig yn 1894.