Mynd a dod
Ddechrau'r ugeinfed ganrif roedd maes glo'r de'n fagnet i fewnfudwyr o bob cwr o'r Deyrnas Unedig, a phobl yn heidio o'r ardaloedd gwledig i chwilio am waith. Erbyn diwedd y ganrif, roedd y darlun wedi ei droi a'i ben i waered. Roedd dros 80% o boblogaeth yr ardaloedd glofaol wedi eu geni yng Nghymru, ond mewn llawer o ardaloedd gwledig roedd y ganran yn llai 50%. Ceid nifer o resymau am y newid: tir a thai yng Nghymru yn gymharol rad, poblogrwydd y bywyd hunangynhaliol, a datblygiadau ym maes cyfathrebu electroneg sy'n ei gwneud yn bosibl i ennill bywoliaeth hyd yn oed yn y mannau mwyaf anghysbell. Cyfrannodd y ffactorau hyn i gyd at y cynnydd yn y mewnlifiad i gefn gwlad Cymru fel ag y gwnaeth y lleihad yn nifer y trigolion brodorol. Creodd y mewnfudo a'r allfudo straen ar y gymdeithas: roedd llawer o gymunedau Cymraeg eu hiaith yn methu ymdopi ac yn y cefn gwlad cododd cryn densiwn rhwng y brodorion a'r newydd ddyfodiaid o'r trefi. Ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif, pan roedd gan Gaerdydd boblogaeth fwy cosmopolitan nag unrhyw borthladd arall ym Mhrydain ac eithrio Llundain, ychydig iawn o bobl o'r tu allan i Ewrop a ymsefydlai yng ngweddill Cymru. Erbyn diwedd y ganrif roedd yn y trefi mawrion gymunedau sylweddol o bobl yn wreiddiol o'r 'Gymanwlad Newydd' ac roedd presenoldeb eu haml ddiwylliannau yn cyfoethogi bywyd y genedl.
Cymdeithas secwlar
Ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, roedd duwioldeb y Cymry yn destun balchder. Roedd y mwyafrif yn arddel cysylltiad 芒 chrefydd gyfundrefnol ac achosodd diwygiad crefyddol 1904-05 ffrwydrad mewn mynegiant o s锚l ysbrydol.
Erbyn dechrau'r unfed ganrif ar hugain roedd Cymru yn un o wledydd mwyaf secwlar Ewrop a llai na 10% o'r boblogaeth yn arddel cysylltiad ffurfiol 芒 lle o addoliad. Buasai parchu'r Sul gynt yn ganolog i fywyd y Cymry , ond diflannodd hynny fel y dangosai'r pleidleisio a fu droeon yngl欧n ag agor tafarndai ar y Sul. Mae'r amser a'r egni a dreulid gynt ar weithgareddau crefyddol yn cael eu sianelu i weithgareddau newydd.
Fodd bynnag, ni ellir haeru bod y dirywiad crefyddol wedi gwneud pobl yn llai tosturiol; yn wir, gellid honni bod Cymru ddechrau'r unfed ganrif ar hugain yn lle llai gormesol a mwy goddefgar nag y bu.