Cymry'r Titanic
Hi oedd un o longau mwyaf moethus a modern ei dydd, llong oedd yn cynrychioli oes aur newydd ar y m么r ac, ar y pryd, y llong fwyaf i hwylio'r moroedd erioed.
Ond, fel y g诺yr pawb, pan drawodd y Titanic fynydd i芒 ar ei mordaith gyntaf ar draws yr Iwerydd ychydig cyn hanner nos ar Ebrill 14 1912 nid ei modernrwydd 'ansuddadwy'1 a sicrhaodd ei lle eiconig yn y llyfrau hanes, ond y dros 1500 o bobl a gollodd eu bywydau yn y dyfnderoedd rhewllyd yn oriau m芒n Ebrill 15.
Doedd gan long enfawr cwmni'r White Star Line ddim gobaith yn erbyn y graig o i芒 a rwygodd ei hochr fel cyllell boeth drwy fenyn. A heb ddigon o fadau achub i'r 2,207 o bobl oedd ar ei bwrdd2 - dim ond lle i 1,178 - roedd trychineb yn anochel y noson honno.
Glo Cymru
Mae ymchwil i'r tunelli o lo oedd yng nghrombil y Titanic yn bwydo ei injanau st锚m, ac sy'n dal yno ar waelod y m么r, yn dangos mai o byllau glo de Cymru y deuai dros dri chwarter y tanwydd.
Yr oedd gl枚wyr Prydain ar streic yn y cyfnod cyn i'r llong hwylio, ac roedd rhai o byllau de Cymru ymysg yr ychydig rai oedd yn parhau i weithio ar y pryd
Mae'n debyg bod prinder glo yn y porthladd yn Southampton ar ddiwrnod lawnsio'r Titanic, ond gwnaeth White Star yn siwr y byddai'n cychwyn ar ei thaith ar amser drwy gymryd glo o longau eraill.
Pan foriodd yr RMS Titanic am y tro cyntaf o borthladd Southampton am Efrog Newydd, gyda glo Cymru yn pweru ei injanau st锚m, roedd arni dros 1,300 yn deithwyr yn mwynhau cyfleusterau moethus yr 11 o ddeciau oedd ar y llong a thua 900 o aelodau'r criw.
Roedd y teithwyr yn cynnwys rhai o ddynion cyfoethoca'r oes ar y deciau uchaf a nifer llawer mwy o werin gwlad ar y deciau isaf. Roedd teithwyr y trydydd dosbarth wedi gwario eu ceiniogau olaf ar docyn fyddai'n eu cludo i'r Unol Daleithiau i ddechrau bywyd newydd.
Ac yn eu mysg roedd 'na Gymry.
"Mor fawr 芒 Threherbert ..."
Roedd y paffwyr David John (Dai) Bowen, 21, o Dreherbert yn y Rhondda a Lesley Williams, 24 oed o Donypandy, wedi prynu eu tocynnau trydydd dosbarth i'r Titanic yn Stryd y Santes Fair yng Nghaerdydd gan gwmni teithio Dean and Dawnson.
Roedden nhw ar eu ffordd i wneud enwau i'w hunain yn yr Unol Daleithiau ac yn edrych ymlaen i sawl gornest bocsio oedd wedi eu trefnu ar eu cyfer. Fe dalasant 拢16 2s i gychwyn ar eu hantur fawr o Southampton ar Ebrill 10, 1912.
Dai Bowen oedd pencampwr bocsio pwysau pluen Cymru. Ar Ebrill 11, ysgrifennodd y cyn-l枚wr at ei fam weddw: "Mae hon yn llong hyfryd, mae hi bron iawn mor fawr 芒 Threherbert ..."
Bocsiwr pwysau bantam oedd Lesley Williams, hefyd yn l枚wr ac yn briod gydag un mab. Fel Dai Bowen roedd yn cael ei ystyried yn focsiwr addawol.
Daethpwyd o hyd i gorff Lesley Williams gan y Mackay-Bennett - y llong a gafodd y dasg o chwilio am gyrff y meirw. Roedd wedi ei wisgo mewn c么t fawr, siwt wl芒n las, crys a dwy sgarff ac arno roedd dau lyfr poced, dwy fodrwy aur, p芒r o gyfflincs arian, ei docyn, papurau, cyllell, 拢3 10s, $30 mewn arian a 拢2 6s mewn ceiniogau arian a chopr.
Ni ddaethpwyd o hyd i gorff Dai Bowen.
Cerdyn post
Gl枚wr arall a foddodd oedd William Rogers, 29 oed, o Bontardawe. Ysgrifennodd gerdyn post i'w gyfaill, James Day, o Queenstown yn Iwerddon ar 11 Ebrill yn dweud "... dim ond gair i ddangos fod mod yn fyw ac yn iach, (mae'n) mynd yn wych, mae'n dipyn o treat ...".
Yn teithio gydag o roedd ei nai 22 oed, Evan Davies, gl枚wr o Fryncoch ger Castell-nedd. Roedd y ddau wedi talu 拢8 1s am eu tocyn trydydd dosbarth. Ni chafwyd hyd i gyrff y naill na'r llall ond mae'n debyg bod cofeb iddynt yng Nghapel y Glais, Cwmtawe.
Mae cofeb arall i un o feirw'r Titanic yn Eglwys Llangatwg ger Castell-nedd - Robert William Norman Leyson, 25 oed, o Abertawe. Yn fab i gyfreithiwr amlwg o'r ddinas, roedd ar ei ffordd i ymuno 芒'i frawd, Thomas, yn Efrog Newydd.
Cafwyd hyd i'w gorff gan y Mackay-Bennet ac mae'r cofnodion o'i eiddo yn dyst i'w statws fel teithiwr ail-ddosbarth trwsiadus: siwt a chrys, sbectol, ysgrifbin, glanhawr cetyn, clip tei aur, c锚s arian gyda'i lythrennau arno ac arian parod.
Collodd Penarth ddau o'u trigolion oedd 芒'u bryd fywyd gwell dros y d诺r: Jim Reed, cigydd 19 oed oedd ar ei ffordd i ymuno 芒'i frawd yng Nghanada, ac Annie Louise Rowley Meek, 31, morwyn a oedd wedi cael addewid o swydd fel nyrs yn Efrog Newydd wedi i'w phriodas ddod i ben. Tybed a ddaeth y ddau ar draws ei gilydd ar fwrdd y llong?
Lowe - y 'swyddog a aeth yn 么l'
Y Cymro mwyaf adnabyddus a gysylltir 芒'r hanes yw'r 'dyn a aeth n么l', . Fe'i portreadwyd gan yn ffilm enwog James Cameron, Titanic, yn 1997.
Un o'r Bermo oedd Lowe a aeth i'r m么r yn 14 oed gan ddringo drwy'r rhengoedd i ddod yn bumed swyddog ar y Titanic. Er ei fod yn forwr profiadol erbyn hynny, hon oedd ei daith gyntaf ar draws yr Iwerydd.
Pan darodd y llong y mynydd i芒, roedd Lowe yn cysgu. Ond unwaith iddo ddeffro, aeth ati i helpu i lenwi'r badau achub gyda merched a phlant, yn 么l y drefn ar y pryd. Cymerodd reolaeth o fad achub rhif 14, a'i rwyfo i ddiogelwch, ryw 150 llath o'r llong.
Ond yn wahanol i'r swyddogion yn y badau eraill, penderfynodd fynd n么l at y llong oedd yn suddo. Ar 么l sicrhau fod ei deithwyr yn ddiogel, arhosodd i'r sgrechfeydd ostegu cyn mentro n么l gyda gwirfoddolwyr eraill drwy'r dyfroedd oer llawn cyrff i chwilio am bobl oedd yn dal yn fyw yn y d诺r.
Pedwar o bobl a lwyddodd i'w hachub o'r d诺r, ond ar ei ffordd tuag at ddiogelwch y Carpathia, gwelodd ddau gwch gwynt yn llawn pobl; clymodd un i'w fad a'i thywys y tu 么l iddo a throsglwyddodd 20 o bobl o'r llall i'w fad ei hun ac i ddiogelwch.
Goroeswyr
Rhoddodd Lowe dystiolaeth gerbron Senedd yr Unol Daleithiau yn y gwrandawiad i'r drychineb a thystiodd rai o'r teithwyr yn y gwrandawiad mai ef oedd yr unig un o'r swyddogion a aeth n么l i chwilio am oroeswyr.
脭濒-苍辞诲测苍
Mewn 'stafell yn nho ei gartref ym Mhontllanffraith ger y Coed Duon yn oriau m芒n y bore ar Ebrill 15 1912, sylwodd ar signal gwan yr oedd yn ei dderbyn ar offer radio roedd wedi ei adeiladu ei hun.
Neges SOS gan y Titanic oedd y signal yn dweud ei bod yn suddo. Aeth Artie yn syth i'r orsaf heddlu leol ym Mhontllanffraith ond cafodd ei wfftio gan y swyddogion yno - roedd ei honiad ei fod wedi derbyn neges "drwy'r awyr" yn anghrediniol iddyn nhw.
Ond ddeuddydd wedyn, cyrhaeddodd y newyddion am y Titanic. Ar y pryd, roedd peirianneg radio yn dal yn ei fabandod a doedd neb yn sylweddoli y gallai signal di-wifr deithio dros bellteroedd mor fawr, dros 3000 o filltiroedd y noson honno.
Cafodd y peiriannydd amatur argraff fawr ar Marconi a daeth i'w weld yn ei gartref a chynnig swydd iddo yn ei gwmni: aeth Artie Moore ymlaen i ddyfeisio ffurf gynnar o sonar.
Cafodd Lowe ei groesawu fel arwr gan 1,300 o bobl leol n么l yn y Bermo a chafodd oriawr aur ganddynt am ei ddewrder.
I'r 708 o deithwyr trydydd dosbarth, i lawr ar y deciau gwaelod lle doedd 'na ddim badau achub, doedd fawr o obaith iddyn nhw oroesi, a bu farw 530 ohonyn nhw (o'i gymharu 芒 124 o'r 325 o deithwyr dosbarth cyntaf).
Yr un oedd hanes y 908 o'r criw, gyda dau draean ohonynt yn trengi; dim ond 216 oroesodd.
Un o'r rhai ffodus hynny oedd y stiward Wilfred Foley, 26, o Abertawe a lwyddodd i ddianc ym mad achub rhif 13 a chael ei achub gan y Carpathia.
Ond ni fu un arall o'r stiwardiaid, Owen W Samuel, 41 oed ac yn briod o Abertawe, mor lwcus. Darganfuwyd ei gorff gan y Mackay-Bennett ac fe'i claddwyd yn Novia Scotia ar 9 Mai 1912. Mae'n bosib fod Foley a Samuel yn adnabod ei gilydd gan fod y ddau wedi bod yn stiwardiaid ar yr Oceanic cyn ymuno 芒 chriw y Titanic ar gyflog o 拢3 15s y mis.
1 Mae'n debyg mai myth yw hi fod y cwmni White Star Line wedi dweud bod y Titanic yn 'ansuddadwy': y geiriau ddefnyddiwyd oedd 'practically unsinkable' a pheirianydd a ddywedodd hynny, ar 么l i'r llong suddo.
2 Mae hyn yn cael ei gyfri'n un o'r prif resymau dros y nifer a gollodd eu bywydau yn y drychineb ond yr eironi yw fod cwmni'r White Star wedi darparu mwy o fadau achub nag oedd raid iddyn nhw yn gyfreithiol ar y pryd. Newidiwyd y rheolau wedi damwain y Titanic.