Llywelyn ap Gruffydd Fychan
topAr y 16eg o Fedi 1400, cychwynnodd Owain Glynd诺r ar ei frwydr i ennill annibyniaeth i Gymru, brwydr a fyddai'n parhau am un ar bumtheg o flynyddoedd.
Trechodd fyddin Harri IV yn Hyddgen ar lethrau Pumlumon yn haf 1401 ac ymdeithio'n fuddugolaethus i dde Cymru.
Ymatebodd Harri i hyn drwy arwain byddin anferth o Gaerwrangon i gipio Owain a dod 芒'r gwrthryfel i ben ar unwaith. Cyrhaeddodd ardal Llanymddyfri a gorfodi Llywelyn ap Gruffydd Fychan, tirfeddiannwr o Gaeo a oedd yn ei chwedegau canol, i'w wasanaethu trwy ei gynorthwyo i ddod o hyd i ganolfan Glynd诺r.
Adweinid Llywelyn fel dyn croesawgar a haelionus dros ben ac roedd yn uchel iawn ei barch. Roedd ganddo ddau fab a oedd yn ymladd ym myddin Owain ac roedd yn benderfynol na fyddai byth yn bradychu ei wlad, ei deulu na'i Dywysog. Arweiniodd Frenin Lloegr ar hyd ucheldir y Deheubarth am wythnosau lawer ar drywydd cyfeiliornus i roi cyfle i Owain ddianc i Wynedd lle gallai gryfhau ei achos ymhellach.
Yn y diwedd collodd Harri ei amynedd, a bu'n rhaid i Lywelyn gyfaddef ei fod yn un o ddilynwyr teyrngar Glynd诺r, a'i fod yn ffyrnig o blaid rhyddid i Gymru. O'r cychwyn gwyddai beth fyddai ei dynged, ond roedd yn barod i aberthu ein hun er mwyn i eraill fedru parhau i frwydro.
Yn wallgof gan ddicter a rhwystredigaeth, gorchmynnodd Harri i Lywelyn gael ei lusgo i Lanymddyfri lle cafodd ei ddiberfeddu a'i dynnu'n bedwar aelod a phen yn gyhoeddus wrth y corcben o flaen pyrth y castell. Dioddefodd artaith am oriau cyn iddo farw. Halltwyd ei weddillion a'u danfon i drefi eraill yng Nghymru i'w harddangos er mwyn atal gwladgarwyr rhag ymuno 芒 byddin Owain, ond yn eironig cafodd y weithred farbaraidd hon ddylanwad cwbl groes i'r disgwyl.
Yn wyneb anfanteision milwrol na ellid eu goresgyn, methodd rhyfel annibyniaeth Glynd诺r yn y diwedd. Lloegr oedd biau un o fyddinoedd mwyaf niferus a didostur Ewrop yng nghyfnod y Canol Oesoedd, fel y darganfu'r Ffrancod yn Agincourt rai blynyddoedd yn ddiweddarach ym 1415. Ond ni chafodd Owain ei ddal na'i fradychu - roedd wedi uno'r genedl 芒'i achos. Am Lywelyn, a wrthodd fradychu ei bobl na derbyn llwgrwobrwyon a breintiau teyrn, gallwn ddweud yn bendant, "ni chafwyd calon ddewrach."
Nodir union safle'r dienyddiad, a ddigwyddodd ar Hydref 9fed 1401, gan blac yn Sgw芒r y Farchnad.
Rhobert ap Steffan.