| |
|
| |
Jakokoyak, Cate Timothy
Aberystwyth, Mai 2004 Gruff Prys
Lle a phryd
Clwb P锚l-droed Aberystwyth, Aberystwyth, Mai 14fed.
Y bandiau
Sweet Baboo, Cate Timothy, Jakokoyak a Ian Cottrell, Bethan Elfyn a Huw Stephens yn Djio.
Awyrgylch
Syfrdanol o feddwl fod y Ffwti yn dwll du di-awyrgylch fel arfer. Mae'n syndod be mae mymryn o Feng Shue gyda' byrddau a chadeiriau'n gallu ei gyflawni. Digon o gynulleidfa, er nad oedd yna lawer o fyfyrwyr Aber yn bresennol (rhy brysur yn smalio adolygu i ddod, debyg).
Trac y noson
'I'm a Loser baby, I come from Llangefni gan Jakokoyak (ac yn ddyledus iawn i Beck). Trac y noson am ei fod yn (rhannol) wir. Pa ran? Dyfalwch chi!
Disgrifiwch y perfformiadau
Sweet Baboo: Ei ganeuon direidus o ddrwg yn cyferbynnu gyda'r ddelwedd hogyn-bach-diniwed-mewn-tanc-top. Nid bod unrhywun mewn tanc-top yn ddiniwed. Deuawd o g芒n Westlife gyda Cate Timothy yn brawf o hynny. Athrylith gwyrdroedig.
Cate Timothy: Treuliodd ormod o amser yn ein gwahanu ni oddi wrth soniarus sain ei llais gan nad ydi hi wedi dysgu tiwnio ei git芒r ei hunan eto. Disgwyl pethau mawr gan hon (unwaith iddi brynu fforc diwnio).
Jakokyak: Set arbrofol un-dyn-芒'i-gyfrifiadur; lwyddodd o ddim i blesio pawb, ond roedd athrylith yn ei set. Efallai fod angen presenoldeb y band llawn i ddal diddordeb y gynulleidfa trwy'r darnau hiraf?
Uchafbwynt y noson
Gweld pobl yn cael amser da mewn gig yn y Ffwti!
Y peth gwaethaf am y noson
Diffyg myfyrwyr.
Achlysur Roc a R么l
Aelodau Ashokan yn darparu bathodynnau metel-trwmaidd yr olwg gyda enw eu band arnyn nhw. Nifer o ddigwyddiadau yn cynnwys staff Radio'r 成人论坛 sydd yn rhy erchyll i'w printio.
Beth sy'n aros yn y cof?
Ar noson feddw fel hon? Dim llawer. Llunwyd yr adolygiadau yma o dystiolaeth ffotograffaidd a'r nodiadau o'n i wedi sgriblo hyd fy mreichiau.
Talent gorau'r noson
Cate Timothy. Mae'n well gen i genod.
Marciau allan o ddeg
Wyth.
Un gair am y gig
Taaaacsi!
Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybuddion? Hufen Haul Ffactor 15!
Lincs gwefan Newyddion Jakokoyak
Mwy o gigs ar safle'r canolbarth
|
|
|