| |
|
| |
Y Panics
Caerfyrddin, Meh 2004 Lowri Johnston
Adolygwr
Lowri Johnston
Lle a phryd
Clwb Rygbi'r Quins, Caerfyrddin 18/6/04
Yr Artistiaid
Y Panics
Disgrifiwch yr awyrgylch a'r perfformiad
Mae'r Panics wedi bod yn weddol dawel yn ddiweddar, ac felly syndod a siom o'r mwyaf oedd cyn lleied o bobl ddaeth i gig cynta'r band mewn tua 6 mis yn y ardal. Bai'r hysbysebu - neu'r diffyg - o bosib (ie, yr un hen esgus!).
Er bod y lle bron yn wag, mae pawb sydd yno yn ddigon hwylus - a dyw'r gwacter ddim i'w weld yn effeithio'r band heno chwaith. A dweud y gwir, mae'n ymddangos eu bod yn chwarae i ystafell orlawn yn lle y llond dwrn sydd yma. Ac fel dilynwyr selog y band yma, rhaid dweud mai dyma un o'r perfformiadau gorau dwi wedi gweld gan Y Panics ers sbel. Dyw hyd yn oed absenoldeb Nia Medi (llais) ddim yn effeithio rhyw lawer, gyda Fflur Dafydd yn llawn digon abl i gynnal y sioe. Set digon chilled yw hi ar y cyfan - ond mae dal yn llawn o'r hen ffefrynnau - Dyn Tywydd, Leicra Lan Lofft, Mr Bean, Ladies. Yng nghanol y set mae Fflur Dafydd yn cyfnewid y git芒r acwstig am yr allweddellau, a dyma yw uchafbwynt y set i mi. Mae'n chwarae c芒n newydd acwstig - heb deitl - sydd wedi cael ei hysgrifennu ar y cyd gyda ffrind o'r Iwerddon (Gwyddelod yw hanner y gynulleidfa a dweud y gwir - lle mae'r bobl leol?), ac mae'n hollol wych. C芒n yw hi am golli plentyndod, ac mae'n cael sylw y gynulleidfa i gyd yn syth - pawb ar goll yn ei melodi hyfryd, a phawb ar f卯n cwympo i gysgu. Ond, mae'r Panics yn adnabod eu cynulleidfa yn dda, ac yn chwarae Elin Royles i ddilyn - can 芒 fwy o fynd iddi i ddihuno pawb! Ffefryn arall i bawb o'r Gorllewin yw Pobl Chips - c芒n am ferched siop sglodion Crisp & Fry yng Nghaerfyrddin - lle sy'n bererindod i drigolion y dre ar 么l noson allan! Mae'r g芒n Ladiesi orffen yn ysgogi rhai i ddawnsio (o'r diwedd!) - a'r band i'w gweld yn falch o'r cwmni! Mae'r band i'w gweld yn datblygu yn dda ac mae'n heb bryd am albwm - dewch 'mlaen bois! Yn anffodus, does dim llawer o ddyddiadau wedi eu trefnu (eto!) ar gyfer gigs dros yr haf (gyda Betsan yn byw yn y Gogledd, mae'r band yn ei ffeindio'n anodd i gynnal ymarferion), felly peidiwch a'u colli nhw ar y nos Wener yn gig Cymdeithas yr Iaith yn yr Eisteddfod.
|
|
|