Caerfyrddin, Mehefin 26
Gan Lowri Johnston
Adolygwr
Lowri Johnston
Lle a phryd
Clwb y Quins yng Nghaerfyrddin, Mehefin 26
Yr Artistiaid
Pedwar band yr ardal yn cymryd rhan, a 3 beirniad o fandiau blaenllaw Cymru - Huw (Bass, Kentucky AFC), Gethin (Drymiau, Kentucky AFC) ac Owain (King 'Biwt)
Disgrifiwch y perfformiadau
Y peth cyntaf wnaeth fy nharo wrth gerdded mewn i glwb y Quins yng Nghaerfyrddin oedd cymaint o blant oedd yn y gig. Tic i Menter Myrddin am ddenu plant yr ardal o'u teledu i gig Cymraeg felly. Y cyntaf ar y llwyfan oedd Trydan, band ifanc iawn (yr holl aelodau dan 12 oed) o Ysgol Tre-gib, Llandeilo. Fel ddywedodd Gethin yn y feirniadaeth - mae'r potensial yma i fod yn un o fandiau gorau Cymru yn y dyfodol.
Yn ail ar y llwyfan oedd Amylder, gan gymryd lle y band Brechdan Tywod oedd i fod i chwarae heno. Eto, band 芒 photensial - a gyda phrofiad bydd eu s诺n yn datblygu.
Dau aelod oedd i fand C诺n Poeth, a dyma fand swynol gyda chaneuon 芒 melodi hyfryd. Er hynny, efallai byddai'r band acwstig yma'n elwa o chael band llawn - bass a dryms - ar adegau.
Yn olaf ar y llwyfan oedd Garej Dolwen, o Grymych. Faswn i'n dweud mai dyma oedd band mwyaf profiadol y noson. Roedd gan y ddwy oedd yn canu leisiau da, ac roedd eu can olaf - siarad - yn dda iawn. Offerynwyr da, a llawer o botensial.
A'r canlyniad felly?
Gyda'r beirniaid i gyd i'w gweld wedi plesio gan y pedwar band, roedd y dewis yn anodd. Ond dyma fe - Garej D么lwen yn gyntaf, C诺n Poeth yn ail, Trydan yn drydydd a Amylder yn bedwerydd. Llongyfarchiadau mawr iddynt oll, a daliwch ati. Fe fydd Garej D么lwen a C诺n Poeth trwyddo i'r rownd nesaf, ac o bosib Trydan ( i weld yr holl fanylion)
Ac ar 么l noson o gystadlu brwd, be well na Kentucky AFC i gloi'r noson? Yn anffodus, wrth iddynt ddod ar y llwyfan, mae'r ystafell yn gwagio yn sydyn - trueni, achos holl bwynt y noson yma oedd bod y bandiau ifanc yn cael cyfle i chwarae gig gyda band mwy profiadol.
Cafwyd set da iawn gan Kentucky AFC, gan gynnwys y ffefryn 'Unarddeg' a fersiwn o g芒n y Gorky's (priodol iawn i gig yng Nghaerfyrddin wrth gwrs - ond ysgwn i sawl un o blant ifanc y gynulleidfa oedd yn sylweddoli hyn?), Iechyd Da.
Mae'n edrych yn debyg mai carfan gwahanol o bobl ddenodd Kentucky AFC i'r gig, a bod y plant wedi colli diddordeb wrth iddynt ddechrau chwarae. Syndod mawr rhaid dweud, gan eu bod yn fand 芒 chaneuon mor egniol. Fe ffeindiais hi'n anodd i dynnu fy llygaid i ffwrdd o'r llwyfan a dweud y gwir! Ar y llaw arall, doedd y plant ddim i'w gweld yn sylweddoli bod y band wedi gorffen hyd yn oed. Ar 么l y sypreis neis o weld ystafell lawn wrth gyrraedd, dyma siom i orffen y noson.
Ond, ar y cyfan, noson dda iawn, gan arddangos talent yr ardal. Cofiwch bleidleisio am y band rydych chi eisiau i ennill!