Phantom Phorce
Mai 2004
Super Furry Animals - Phantom Phorce
Y dyddiau yma, mae'n anodd peidio sylwi ar y Super Furry Animals - grwp sydd byth yn eistedd n么l a gwneud dim. Ar 么l bod ar daith yn y gwanwyn, mae nhw newydd ryddhau Phantom Phorce, sef CD llawn o remicses o draciau'r albym Phantom Power, sydd allan ar label y grwp Placid Casual.
Ymhlith yr artistiaid sy'n ail-gymysgu'r holl draciau mae Llwybr Llaethog, Weevil, Four Tet, Brave Captain, High Llamas a llawer mwy. Y dyddiad rhyddhau yn wreiddiol oedd canol mis Ebrill, ond aeth y cwmni dosbarthu i'r wal felly mae 'na nifer o siopau heb dderbyn copiau o'r albym o gwbl. Am fwy o fanylion am sut i gael copi, ewch i wefan .
Felly yn y cyfamser, i'ch helpu i benderfynu os ydych chi eisiau prynu'r albym, daeth Angharad Griffiths, sy'n ysgrifennu ac yn adolygu i Big Issue Cymru, a o'r band Mwsog a chyflwynydd Bandit ar S4C, i stiwdios C2 at Huw Stephens i'w hadolygu ar Fai y 5ed.
Gwrandewch ar adolygiad o Phantom Phorce
Bydd SFA yn dychwelyd i'r stiwdio i recordio eu seithfed albym stiwdio yn fuan. Cofiwch hefyd bod EP newydd y SFA ar gael fel download o - mae'n cynnwys fersiwn newydd o Slow Life, Lost Control sef remics o Out Of Control a Motherf****r, gyda'r Goldie Lookin' Chain a Killa Kella.
am fwy o newyddion y Super Furries.